Gwobr addysgu glodfawr ar gyfer yr Academi Meddalwedd Genedlaethol
6 Awst 2020
Mae'r Academi Meddalwedd Genedlaethol (NSA) wedi cael ei chydnabod am ei rhagoriaeth mewn gwaith cydweithredol a'i heffaith gadarnhaol ar addysgu a dysgu gan un o sefydliadau blaenllaw’r sector.
Mae'r Academi wedi cael Gwobr Gydweithredol am Ragoriaeth Addysgu (CATE) gan Advance HE fel cydnabyddiaeth o'i hymrwymiad rhagorol i addysgu yn sector addysg uwch y DU.
Sefydlwyd yr Academi mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac arweinwyr diwydiannol, gan gynnwys Sefydliad Alactrity yng Nghasnewydd. Ei nod yw rhoi prosiectau ‘bywyd go iawn’ i fyfyrwyr weithio arnynt trwy gydol eu hastudiaethau, a rhoi cyfleoedd iddynt ymgysylltu â pheirianwyr meddalwedd profiadol o’r diwydiant.
Fe’i sefydlwyd mewn ymateb i bryderon gan ddiwydiant fod graddedigion peirianneg meddalwedd yn brin o nifer o sgiliau hanfodol i’w paratoi ar gyfer y gweithle wedi iddyn nhw adael y brifysgol.
Mae’r tîm o staff sy’n cynnwys partneriaid yn y diwydiant yn cyflwyno'r rhaglenni. Maent yn cydweithio i addysgu myfyrwyr mewn modd arloesol ar sail prosiectau sy’n canolbwyntio ar gleientiaid.
Mae'r dull cydweithredol hwn o addysgu a dysgu wedi arwain at lawer o lwyddiannau ers lansio'r Academi yn 2015 ac mae wedi dod yn agwedd unigryw ar brofiad y myfyriwr.
Ers i'r Academi ehangu i gyfleusterau newydd sbon yng Nghasnewydd yn 2018, mae myfyrwyr wedi gallu astudio o fewn amgylchedd sy'n dynwared y gweithle yn y diwydiant peirianneg meddalwedd.
Mae'r CATE yn cydnabod ac yn dathlu gwaith timau sydd wedi dangos effaith ar ddysgu myfyrwyr ac ymarfer addysg ar y lefel uchaf.
Dim ond hyd at 15 sy'n cael eu dyfarnu bob blwyddyn, gyda thimau llwyddiannus yn dod yn rhan o rwydwaith blaenllaw o addysgwyr sydd ar flaen y gad yn yr ymarfer.
Yn ôl Advance HE, mae effaith enillwyr y gwobrau ar y sector AU mor amlwg ag erioed eleni, gydag ymgyrch benodol am effaith yn cael ei dangos gan ein henillwyr a'n hymgeiswyr wrth hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) o fewn dulliau o ddylunio cwricwlwm, cyflwyno addysgu a chydweithio.
Dywedodd Wendy Ivins, Arweinydd Tîm yr Academi Meddalwedd Genedlaethol: “Mae tîm yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn ystyried bod y Wobr Gydweithredol am Ragoriaeth Addysgu yn gyffrous ac yn anrhydedd mawr. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cydweithio â ni i gynnig cyfleoedd ystyrlon i'n myfyrwyr ymgysylltu â diwydiant. ”
Ychwanegodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr: “Rwy’n falch iawn bod yr Academi Meddalwedd Genedlaethol wedi cael Gwobr Gydweithredol am Ragoriaeth Addysgu. Dyma’r gyntaf i Gaerdydd ac mae’n dod â chydnabyddiaeth genedlaethol haeddiannol i Dr Wendy Ivins a’i thîm sydd wedi bod mor ymrwymedig i greu cyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr gydweithio â chleientiaid yn y diwydiant."
Dywedodd Alison Johns, Prif Swyddog Gweithredol Advance HE: “Rwy’n siŵr bod y sector cyfan yn ymuno â mi i longyfarch enillwyr NTFS a CATE 2020. Dylai pob un o'r enillwyr fod yn hynod falch o'u cyflawniad a’u gwobrau addysgu cenedlaethol mawreddog. Mae eu gwaith yn crynhoi'r ymrwymiad rhagorol i addysgu yn sector addysg uwch y DU, sydd eleni wedi bod yn fwy heriol nag erioed o'r blaen. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt.
“Ar 20fed pen-blwydd y Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol, roeddem wir eisiau dathlu amrywiaeth yr unigolion rhagorol sy’n addysgu neu’n cefnogi addysgu, ac yn canolbwyntio ar effaith ymgeiswyr ar faterion EDI ym mhroses y Gwobrau. Byddwn yn parhau â'r ffocws hwn yn y blynyddoedd i ddod wrth i ni sicrhau bod y gwobrau'n adlewyrchu amrywiaeth academyddion ac athrawon ar draws y sector. "