Darn unigryw o hanes Du Cymru ar gael i'w lawrlwytho am y tro cyntaf
6 Awst 2020
Mae darn hynod o brin o hanes Du Cymru wedi’i gyhoeddi ar lein am y tro cyntaf.
Ym 1862, cyhoeddodd William Hall ei “Naratif Bersonol” o Stryd Biwt. Mae’r naratif yn olrhain hanes brawychus ei enedigaeth mewn caethiwed yn Nhennessee a’i daith hirfaith i Gaerdydd.
Ynddo, mae Hall yn disgrifio cael ei werthu i berchnogion planhigfeydd, yn manylu sut y ceisiodd ddianc caethwasiaeth ar amryw o achlysuron, a’n trafod ei brofiadau yn cwrdd â chaethweision eraill.
Mae’r ddogfen dan ofal Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd, a credir mai dyma un o ddau gopi sydd wedi goroesi yn fyd-eang. Mae’n bamffled bychan, bregus – ac o heddiw ‘mlaen, mae ar gael ar lein i unrhyw un ei ddarllen a’i lawrlwytho.
Medd Tracey Stanley, Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd a Llyfrgellydd y Brifysgol: “Mae’r ddogfen unigryw yma’n rhan mor bwysig o hanes Du Caerdydd, a Chymru, a ro’n ni eisiau ei gwneud ar gael i bawb.
“’Dyn ni’n dal i ddarganfod mwy am fywyd William Hall – rydym ni’n gobeithio y bydd cyhoeddi’r ddogfen ar lein yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr, fydd yn parhau i archwilio hanes pobl Ddu yng Nghymru.”
Fe noddwyd y ddogfen yn wreiddiol gan fynychwyr capel Wesleaidd yng Nghaerdydd, sy’n taro goleuni ar y gefnogaeth oedd i’r mudiad Diddymu Caethwasiaeth yn y ddinas.
Oherwydd natur fregus y ddogfen, fe fyddai’n cael ei darllen fel rheol dan amodau arbenigol yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau’r Brifysgol.
Mae’r cyfnod clo wedi peri sialens i ymchwilwyr sy’n defnyddio llyfrau prin a mae technoleg ddigidol wedi golygu y gall peth o’r gwaith hwn barhau.
“Mae ein staff wedi bod yn gweithio’n galed i gefnogi myfyrwyr ac ymchwilwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yma yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau, mae hyn wedi golygu rhoi rhai dogfennau unigryw ar lein, a allai fod yn rhy brin neu fregus i’w hymchwilio yn y cnawd ar hyn o bryd,” meddai Alan Vaughan Hughes, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.
“Mae gweithiau hanesyddol gan awduron Du – fel gwaith William Hall – yn haeddu cynulleidfa ehangach, a ‘dyn ni’n falch o allu rhannu’r gwaith hwn gyda phawb trwy’r Internet Archive. Rydym ni hefyd yn ddiolchgar iawn i’r Athro William Jones a Dr David Wyatt am eu gwaith yn ymchwilio a chodi ymwybyddiaeth o’r ddogfen werthfawr hon.”