Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect arloesi mawr yn canolbwyntio ar ddiogelu'r cyflenwad bwyd

6 Awst 2020

Roberta Sonnino
Professor Roberta Sonnino

Mae dinasyddion Ewrop yn mynd i gael yr adnoddau i gael bwyd fforddiadwy, cynaliadwy a maethlon, diolch i ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Yr Athro Roberta Sonnino yw'r cydlynydd gwyddonol cyffredinol ar gyfer FOODTRAILS, prosiect arloesi gwerth €12 miliwn Horizon 2020 sy'n dechrau yn yr hydref. Bydd y prosiect, sydd wedi'i ariannu gan y Comisiwn Ewropeaidd, yn canolbwyntio ar weithredu systemau bwyd trefol newydd ac yn helpu i ymdrin â diffyg diogelwch bwyd ar draws 11 dinas yn Ewrop.

Bydd ‘Labordai Byw’ yn cael eu creu ym mhob dinas, fel bod cyfle i lywodraeth leol a thrigolion lleol ddatblygu polisïau parhaol a diriaethol i reoli cadwyni cyflenwad cynaliadwy, mynd i'r afael â thlodi bwyd a hybu bwyta'n iach.

Meddai'r Athro Sonnino, sydd wedi'i leoli yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: “Mae angen brys am weddnewid y system fwyd o'r bôn i'r brig, ac mae pandemig Covid-19 wedi tanlinellu hyn.

“Mae'r systemau cyfredol yn golygu nad oes gan ddinasoedd yr adnoddau i ymateb i argyfyngau sydyn. Ar ôl degawdau o danfuddsoddi, rydym yn dal i weld lefelau uchel o dlodi ac anniogelwch bwyd mewn ardaloedd trefol. Bydd y prosiect hwn – buddsoddiad mwyaf y Comisiwn Ewropeaidd mewn cynaliadwyedd bwyd – yn rhoi'r grym yn nwylo'r rhai sy'n gallu achosi newid gwirioneddol a sylweddol.”

O dan arweiniad dinas Milan, mae'r prosiect pedair blynedd yn dod â chonsortiwm o 19 partner at ei gilydd, sy'n cynnwys 10 dinas arall yn yr UE – Bergamo, Bordeaux, Grenoble, Warsaw, Tirana, Copenhagen, Funchal, Birmingham, Thessaloniki a Groningen – yn ogystal â thair prifysgol a phum sefydliad systemau bwyd amlwg. Mae 21 dinas arall ledled y byd yn mynd i ddilyn y camau a wnaeth y consortiwm.

Mae'r Athro Sonnino yn arbenigwr nodedig ar ddiogelu'r cyflenwad bwyd ac ar systemau bwyd ac roedd yn Is-Gadeirydd Grŵp Arbenigwyr FOOD2030. Arweiniodd y gwaith hwn y broses o ddatblygu pedwar maes blaenoriaeth fframwaith ymchwil Ewrop FOOD 2030 – maeth a dietau iach; hinsawdd ac amgylchedd; natur gylchol ac effeithiolrwydd adnoddau; ac arloesi a grymuso cymunedau.

Bydd pob dinas sy'n ymwneud â FOODTRAILS wrthi yn datblygu prosiectau sy'n ymdrin â heriau penodol i'w maes blaenoriaeth eu hunain. .

Dywedodd yr Athro Paul Milbourne, Pennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, un o'r cyd-ymchwilwyr ar y prosiect: “Rwyf wrth fy modd bod gwaith gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd wedi arwain at y prosiect arwyddocaol hwn sydd â’r nod o wella diogelwch a chynaliadwyedd bwyd i bobl ledled y byd. Byddwn yn cydweithio'n agos â'n partneriaid i gefnogi'r 11 dinas dros y pedair blynedd nesaf ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r hyn y byddwn yn ei gyflawni gyda'n gilydd.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.