Chwilio am brawf gwaed celloedd T Covid-19
4 Awst 2020
Mae cwmni biotechnoleg blaenllaw a sefydlwyd ar y cyd gan gyn-fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi cael cyllid gan Innovate UK i ddatblygu prawf imiwnedd newydd ar gyfer Covid-19.
Ar hyn o bryd, mae'r dulliau'n canolbwyntio ar ganfod gwrthgyrff mewn samplau gwaed, ond mae Indoor Biotechnologies o Gaerdydd yn datblygu prawf i archwilio celloedd T, sy'n chwarae rhan allweddol wrth reoli a dileu heintiadau feirws.
Os bydd yn llwyddiannus, bydd y Prawf Imiwnedd Cellol Syml (Simple Cellular Immunity Test (SCIT)) yn gallu nodi presenoldeb celloedd T sy'n ymateb i'r feirws sy'n achosi Covid-19 o un tiwb o waed, cyn pen 24 awr.
Meddai Dr James Hindley, cyn-fyfyriwr o Gaerdydd, cyfarwyddwr gweithredol Indoor Biotechnologies: "Rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi cael cyllid i ddatblygu'r cynnyrch unigryw hwn a all helpu yn y frwydr yn erbyn y pandemig hwn."
Meddai Dr Martin Scurr, ymchwilydd ôl-ddoethurol yn yr Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd, sydd wedi cael secondiad fel rheolwr prosiectau yn Indoor Biotechnologies i sefydlu'r prawf: "Y nod yw datblygu prawf celloedd T y bydd labordai ledled y byd yn gallu ei ddefnyddio'n hawdd, fel bod modd profi imiwnedd celloedd T Covid-19 ar lefel dorfol."
Ychwanegodd yr Athro Andrew Godkin, hefyd o Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd: "Rydym wrth ein bodd o gael cydweithio ag Indoor Biotechnologies ar y prosiect hwn. Ynghyd â'r amrywiaeth o waith sy'n cael ei wneud yma ym Mhrifysgol Caerdydd ac Ysbyty Athrofaol Cymru, bydd yn ein helpu i ddeall sut mae'r system imiwnedd yn gweld y feirws hwn, a gobeithio yn ein galluogi i ddeall pa fath o beth yw ymateb imiwnyddol amddiffynnol."
Mae'n bosibl y bydd y prawf yn werthfawr wrth ddatblygu brechlyn i helpu i nodi a yw ymateb imiwnyddol digonol wedi'i gynhyrchu i amddiffyn pobl rhag COVID-19, ac i brofi pa mor hir y mae'r ymateb imiwnyddol hwnnw'n parhau.