Digwyddiadau Eisteddfod AmGen i drafod etholiadau ac economi Cymru
31 Gorffennaf 2020
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan yn Eisteddfod AmGen eleni, mewn digwyddiadau yn cynnwys Richard Wyn Jones, Laura McAllister ac eraill.
Wedi gohirio Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020 oherwydd Covid-19, mae AmGen yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau digidol.
Ar ddydd Mawrth, 4ydd o Awst am 14:00, bydd Guto Ifan a Cian Siôn o’r tîm Dadansoddi Cyllid Cymru yn ymuno â Laura McAllister mewn digwyddiad Zoom i drafod Covid-19 ac economi Cymru. Cynhelir y digwyddiad ar y cyd gyda Senedd Cymru, a gellir ei wylio gan ddefnyddio'r ddolen hon (mae angen cleient Zoom). Bydd cyfieithu ar gael.
Yn hwyrach ar yr un diwrnod, am 17:30, bydd cyflwyniad gan yr Athro Richard Wyn Jones yn cael ei ddarlledi. Dan y teitl ‘Beth ddigwyddodd yn Etholiad Cyffredinol 2019 – a pham?’, bydd y ddarlith a’r cyflwyniad allweddol yma yn cynnwys llwyth o ddata yn esbonio canlyniadau dramatig yr etholiad fis Rhagfyr llynedd. Gellir ei weld ar y diwrnod ar dudalen Cymdeithasau gwefan Eisteddfod.