Cydweithio i frwydro yn erbyn troseddau bywyd gwyllt
30 Gorffennaf 2020
Bydd gweithdy gwrth-lwgrwobrwyo cyntaf Sabah yn helpu i sicrhau bod asiantaethau bywyd gwyllt, coedwigoedd a physgodfeydd wedi'u harfogi'n arbenigol er mwyn ymateb i droseddau bywyd gwyllt.
Casglwyd asiantaethau gorfodi'r gyfraith i godi ymwybyddiaeth o ddeddfau gwrth-lwgrwobrwyo, gan gynnwys amddiffyn tystion a chwythwyr chwiban, er mwyn mynd i'r afael â throseddau bywyd gwyllt ym Morneo.
Roedd y gweithdy a drefnwyd gan Adran Bywyd Gwyllt Sabah, Comisiwn Gwrth-lwgrwobrwyo Malaysia a Chanolfan Maes Danau Girang, yn rhoi llwyfan i rannu'r anawsterau a wynebir wrth fod yn dyst i lwgrwobrwyo neu wrth gyhuddo rhywun o'r drosedd.
Dywedodd Mr Karunanithy A/L Y. Subbiah, Cyfarwyddwr Comisiwn Gwrth-lwgrwobrwyo Malaysia: “Yn fyd-eang, mae llwgrwobrwyo mewn troseddau sy'n cynnwys smyglo bywyd gwyllt yn cadw i ledu ar gyflymder pryderus ac mae wedi dod yn un o'r sbardunau ar gyfer masnach anghyfreithlon. Ni welir llwgrwobrwyo bellach fel problem leol yn unig ond mae wedi esblygu'n ffenomena troseddau trawsffiniol."
Nod y gweithdy oedd codi ymwybyddiaeth am gymhlethdod llwgrwobrwyo mewn troseddau bywyd gwyllt, gan gynnwys llwgrwobrwyo ar gyfer gwybodaeth am gludiant anifeiliaid neu batrolau, gan gael hawliau a chwotâu, ac osgoi cael eu harchwilio neu eu hatafaelu.
Yn ôl Yr Athro Benoit Goossens o Brifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang: “Mewn gweithdai blaenorol, cydnabuwyd bod potsio, hela, a lladd a masnach anghyfreithlon yn fygythiadau go iawn i lawer o rywogaethau yn Sabah.
“Roedd y wybodaeth o'r gweithdai hynny wedi'i chynnwys yn y Cynlluniau Gweithredu Gwladwriaeth i gynyddu capasiti asiantaethau'r llywodraeth o ran gorfodi'r gyfraith bywyd gwyllt a phartneriaid allweddol o ran cadwraeth. Yn benodol, i hyfforddi dadansoddwyr troseddau, ymchwilwyr a chasglwyr gwybodaeth, a thechnegydd fforensig ardystiedig yn Labordy Iechyd, Genetig a Fforensig Bywyd Gwyllt Sabah.
“Gobeithio y bydd y gweithdy hwn yn gyfle i gynyddu cydweithio rhyngasiantaethol ac i weithio tuag at amcanion y Cynlluniau Gweithredu Gwladwriaeth Bywyd Gwyllt a fabwysiadwyd y llynedd gan y Cabinet Gwladol."