Ewch i’r prif gynnwys

Absenoldeb mamolaeth a chau bwlch rhywedd

29 Gorffennaf 2020

Torso of pregnant woman

Bydd economegydd llafur o Brifysgol Caerdydd yn cynnig ei harbenigedd i gymuned ymchwil gydweithredol newydd sydd i ystyried pa mor effeithiol yw pecynnau absenoldeb mamolaeth sefydliadau addysg uwch y deyrnas hon ynglŷn â lleddfu anghydraddoldeb rhwng dynion a merched.

Llwyddodd y Dr Ezgi Kaya, darlithydd economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd, ynghyd â thîm aml ei ddisgyblaethau arbenigol o dan adain y Dr Joanna Clifton-Sprigg, o Brifysgol Caerfaddon, i ennill peth o’r £100,000 sydd ar gael trwy’r GW4 Alliance Generator Award.

Mae Cynghrair GW4 yn gyfungorff ac iddo bedair o brifysgolion dwysaf eu hymchwil y deyrnas; Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg, ac mae’n helpu cymunedau ymchwil cydweithredol i gynnal prosiectau sy’n ymwneud ag amryw heriau cymdeithasol, diwydiannol a byd-eang trwy ei Generator Award.

Her gymdeithasol

Nod rhai polisïau megis absenoldeb mamolaeth yw lleddfu anghydraddoldeb rhwng merched a dynion ym marchnad y llafur ond ychydig iawn a wyddys am eu heffeithiolrwydd, yn arbennig yn y byd academaidd.

Bydd cymuned ‘Maternity leave in the UK – a gender gap closing policy?’ yn sefydlu rhwydwaith amlddisgyblaethol i geisio newid ymchwil i farchnad y llafur yn sylweddol, gan roi sylw arbennig i’r cwestiwn perthnasol hwn o ran polisïau.

Meddai’r Dr Kaya: “Mae’n gyffrous bod yn rhan o’r fenter hon a fydd yn cryfhau ein hadnoddau a’n gallu i roi ar waith raglen ymchwil uchelgeisiol i ystyried yr her gymdeithasol o amryw safbwyntiau...”

“Wrth gwrs, rydyn ni’n gobeithio y bydd canlyniad y cydweithio’n cyfrannu at y drafodaeth ehangach am fwlch rhywedd. Mae heriau cymdeithasol o’r fath yn hollbwysig yn rhaglen ymchwil Ysgol Busnes Caerdydd i werth cyhoeddus ac, felly, mae’n dda bod yn rhan o ymdrech gymunedol i fynd i’r afael â nhw yng nghyd-destun ehangach GW4, hefyd.”

Dr Ezgi Kaya Senior Lecturer in Economics

Yn ogystal â’r Dr Kaya a’r Dr Clifton-Sprigg, bydd economegydd llafur arall o Brifysgol Caerfaddon, y Dr Eleonora Fichera, cymdeithasegydd o Brifysgol Bryste, yr Athro Susan Harkness, a seicolegydd cymdeithasol a sefydliadol o Brifysgol Caerwysg, yr Athro Michelle Ryan.

Mae’r prosiect ymhlith wyth a enillodd arian trwy’r GW4 Generator Award, a bydd yn mynd rhagddo am chwe mis o 1af Awst 2020.

Yn ystod digwyddiad lansio ar 21ain Gorffennaf 2020, cyflwynwyd ymchwilwyr i dîm GW4 a’r amrywiaeth helaeth o adnoddau a gwybodaeth sydd ar gael megis cymorth cyfathrebu a chyngor am ariannu.

Bydd pob prosiect yn cyflwyno ei gynnwys ar y we trwy amryw ddulliau megis gweithdai rhithwir a digwyddiadau rhwydweithio.

Dyma ragor am y prosiectau sydd ar waith yn rhan o’r GW4 Generator Award.

Rhannu’r stori hon

Ni yw'r Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.