Mae traethawd hir myfyriwr graddedig Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy wedi ymddangos ym Mwletin ICOMOS y DU
28 Gorffennaf 2020
Mae darn o draethawd hir Tony Gwynne, cyn-fyfyriwr MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy, wedi ymddangos ym Mwletin Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS) y DU.
ICOMOS-UK yw pwyllgor ICOMOS (Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd) cenedlaethol y DU, sydd â rôl arbennig fel cynghorydd swyddogol i UNESCO ar Safleoedd Treftadaeth diwylliannol y Byd. Mae ICOMOS-UK yn chwarae rôl hanfodol o ran cynghori ar agweddau o Safleoedd Treftadaeth y Byd i'w henwebu ledled y DU.
Mae traethawd hir Tony, sydd â'r teitl ‘Are the Building Regulations fit for the purpose of upgrading traditional, historic and listed buildings using modern applications in Wales?’ yn canolbwyntio ar bryderon nad yw Rheoliadau Adeiladu Cymru na'r Dogfennau Ategol a Gymeradwywyd yn cydnabod yn llawn y cymhlethdodau a geir wrth addasu adeiladau traddodiadol, hanesyddol a rhestredig. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried nod Llywodraeth y DU i ddatgarboneiddio ein stoc adeiladau erbyn 2050 gan fod o leiaf chwarter stoc tai Cymru yn adeiladau traddodiadol.
Mae'r MSc mewn Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy wedi'i achredu gan yr IHBC ac mae'n gymhwyster meistr unigryw sy'n trafod heriau a phryderon cyfredol a gydnabyddir yn fyd-eang ac a bwysleisir mewn cyd-destun hanesyddol.
Dywedodd Tony:
“Rhoddodd cwrs MSc Cadwraeth Adeiladu Cynaliadwy, Ysgol Pensaernïaeth Cymru, gyfle i mi ymchwilio i'r pwnc pwysig hwn a holi Llywodraeth Cymru'n uniongyrchol."
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy a sut i wneud cais amdano, ewch i dudalennau'r cwrs.