Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar restr fer ar gyfer gwobr ysgolheictod cyfreithiol

27 Gorffennaf 2020

Mae llyfr a ysgrifennwyd gan ddarlithydd o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar restr fer Gwobr Peter Birks eleni ar gyfer Ysgolheictod Cyfreithiol Rhagorol.

Bob blwyddyn mae Cymdeithas yr Ysgolheigion yn cynnig dwy wobr am gyfrolau rhagorol a gyhoeddir gan ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Cyhoeddwyd llyfr Dr Rachel Cahill-O'Callaghan, Values in the Supreme Court: Decisions, Division and Diversity (Hart Publishing) ym mis Chwefror ac mae'n un o wyth llyfr sydd ar y rhestr fer yn 2020.

Mae'r llyfr yn ymchwilio i'r berthynas rhwng gwerthoedd barnwrol a gwneud penderfyniadau yng Ngoruchaf Lys y DU ac, fel ei awdur, mae'n cyflwyno dull rhyngddisgyblaethol sy'n cyfuno syniadau a thechnegau o seicoleg i nodi rôl gwerthoedd wrth wneud penderfyniadau barnwrol.

Dywedodd Dr Cahill-O’Callaghan, a symudodd i astudio'r Gyfraith ar ôl gyrfa lwyddiannus ym maes gwyddoniaeth academaidd, "Bu trafodaeth academaidd helaeth ynghylch rôl gwerthoedd wrth wneud penderfyniadau barnwrol, ond nid oedd llawer o dystiolaeth empirig i gefnogi'r dadleuon. Y ffaith nad oedd dull i nodi gwerthoedd barnwrol yn y DU oedd i’w gyfrif am hyn yn bennaf."

“Darparodd fy nghefndir gwyddonol y sgiliau i mi addasu'r ymchwil ar werthoedd o seicoleg a'u cymhwyso i gyd-destun cyfreithiol gan gynhyrchu dull felly i nodi a mesur mynegiant gwerthoedd mewn dyfarniadau cyfreithiol. Rwy'n defnyddio'r dull hwn i ystyried dadleuon cyfreithiol allweddol ynghylch anghytuno ac amrywiaeth farnwrol."

Mae Dr Cahill-O’Callaghan yn dadlau bod ein blaenoriaethau o ran gwerthoedd yn elfen ar brofiadau bywyd ac er mwyn sicrhau amrywiaeth gwerthoedd ar fainc y Goruchaf Lys, mae angen penodi amrywiaeth o farnwyr sydd wedi byw bywydau gwahanol.

Cyhoeddir enillwyr gwobrau Peter Birks eleni ym mis Medi yn ystod Cynhadledd Flynyddol rithiwr y Gymdeithas Ysgolheigion a gynhelir gan Brifysgol Caerwysg.

Rhannu’r stori hon