Academydd o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)
27 Gorffennaf 2020
Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi dod yn aelod o Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).
Penodwyd yr Athro Ambreena Manji, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth y Brifysgol, gan Fwrdd Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).
Mae Cyngor yr AHRC yn cynnwys cynrychiolwyr o'r gymuned academaidd yn ogystal ag unigolion o fusnesau a'r sector cyhoeddus. Maent yn gweithio gyda'r Cadeirydd Gweithredol, yr Athro Andrew Thompson, i lunio strategaeth yr AHRC i gefnogi cenhadaeth gyffredinol UKRI i gynnal safle'r DU ar flaen y gad yn rhyngwladol o ran arloesedd ac ymchwil.
Dywedodd yr Athro Manji: “Rwy'n falch iawn o ymuno â Chyngor yr AHRC yng nghanol adeg o ail-ddadansoddiad o hanes a chynhyrchu gwybodaeth. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i fynegi achos y celfyddydau a'r dyniaethau ledled y byd."
A hithau’n un o gyd-sylfaenwyr Canolfan y Gyfraith a Chyfiawnder Rhyngwladol, ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ymchwil yr Athro Manji yn canolbwyntio ar y gyfraith a chymdeithas yn Affrica. Bu ar secondiad yn Nairobi fel Cyfarwyddwr Sefydliad Prydain yn Nwyrain Affrica yr Academi Prydeinig gan ddatblygu cysylltiadau cryf gyda’r farnwriaeth Affricanaidd a'r proffesiwn cyfreithiol. Arweiniodd hyn ati'n dechrau'r prosiect Barnwriaethau Ffeministaidd Affrica sy'n ceisio rhoi mewnwelediad rhyngddisgyblaethol i gyfraith Affricanaidd ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol.
Hi hefyd yw Llywydd Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU (2018-2020), Golygydd African Affairs; aelod o Bwyllgor Ymgysylltiad Rhyngwladol yr Academi Brydeinig ac yn aelod o is-banel Astudiaethau Maes y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021.
Dywedodd y Rhag Is-Ganghellor, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yr Athro Damian Walford Davies: “Mae Prifysgol Caerdydd - a Choleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth - yn dathlu penodiad yr Athro Ambreena Manji i swydd lle bydd yn eirioli'n gryf dros werth ymchwil y celfyddydau a'r dyniaethau ymysg y llywodraeth a'r cyhoedd ehangach.
"Bydd ei harbenigedd yn amhrisiadwy wrth lywio ymrwymiadau cynllun gweithredu'r AHRC o ran galluogi cyfranogiad diwylliannol, mynd i'r afael â heriau cymdeithasol a chreu gwerth economaidd - yn y ffordd ehangach, mwyaf cynhwysol fydd yn talu ar ei ganfed."
Mae'r Athro Manji yn un o ddau benodiad newydd i Gyngor yr AHRC, gan ymuno â'r hanesydd a’r darlledwr yr Athro David Olusoga.
Dywedodd yr Athro Andrew Thompson, Cadeirydd Gweithredol yr AHRC: "Rwy'n falch iawn o groesawu'r aelodau uchel eu parch hyn i'r Cyngor AHRC. Bydd Ambreena a David yn dod ag arbenigedd a mewnwelediad gwerthfawr iawn i'r Cyngor; a gyda'n haelodau presennol byddant yn helpu i sicrhau cyfraniad y celfyddydau a'r dyniaethau at dirwedd ymchwil ac arloesedd y DU, ac at fynd i'r afael â heriau mawr byd-eang."