Gallai arloesiad cyffrous leihau costau a gwenwyndra prosesau gwneud meddyginiaethau
23 Gorffennaf 2020
Mae tîm ymchwil yng Nghaerdydd wedi datgelu ffordd o ddefnyddio catalyddion anfetel a allai wneud cyffuriau fferyllol yn fwy fforddiadwy a diogel.
Mae maes Catalysis yn chwarae rôl hanfodol mewn ansawdd ein bywydau beunyddiol.
Drwy ostwng rhwystr egni prosesau cemegol, gall catalyddion leihau faint o egni sydd ei angen, gan wneud prosesau cemegol yn fwy effeithlon. Felly, mae’n hanfodol bod catalyddion newydd yn cael eu datblygu a’r rhai presennol eu gwella, gan fod y rhain yn dylanwadu’n uniongyrchol ar lawer o faterion cymdeithasol mawr heddiw.
Yn hanesyddol, mae metelau trosiannol wedi dominyddu’r prosesau hyn, oherwydd eu cemeg adweithio gyfoethog. Fodd bynnag, mae llawer o gatalyddion yn cynnwys metelau gwerthfawr (fel rhodiwm). Y broblem yw bod metelau gwerthfawr yn ddrud ac yn wenwynig yn aml.
Wrth gwrs, mae gwenwyndra yn ystyriaeth enfawr ar gyfer cynhyrchion, fel cyffuriau fferyllol, a roddir i’r corff i drin cleifion sâl.
Er gwaethaf hyn, mae dulliau cyfredol o greu cyffuriau yn dal i ddefnyddio adweithiau catalyddu â rhodiwm.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi darganfod bod modd osgoi’r fath broblemau drwy ddulliau anfetel. Roeddynt yn gallu defnyddio catalyddion anfetel, sy’n seiliedig ar yr elfen boron, i greu ystod o adweithiau detholus iawn.
Dangoswyd y gallai catalyddion boron fod yn well na chatalyddion rhodiwm, drwy ddangos detholedd gwell a nifer llai o gamau synthetig mewn trawsffurfiadau cemegol.
Cafodd yr ymchwil ei hariannu gan EPSRC, o fewn Grŵp Melen yn Sefydliad Catalysis Caerdydd, a’i hadrodd mewn dau gyhoeddiad allweddol, Angewandte Chemie and CHEM.
Roedd y tîm yn cynnwys un PDRA, Ayan Dasgupta, dau fyfyriwr PhD o Gaerdydd, Kate Stefkova a Lukas Gierlichs, ac yn gweithio ar y cyd â Phrifysgol Tasmania.
Mae’r tîm wedi llwyddo i ddangos y gellir dilyn gweithdrefn seml, effeithiol heb gatalydd metel. Bydd hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer cynhyrchu cyfansoddion sy’n weithredol yn fiolegol yn y dyfodol.