Ewch i’r prif gynnwys

Gweld Tsieina o'ch soffa: Corneli Tsieineaidd yn troi'n rhithwir

23 Gorffennaf 2020

Ddechrau mis Gorffennaf, symudodd Sefydliad Confucius Caerdydd y ffisegol i'r rhithiol gan gynnal eu Cornel Tsieineaidd cyntaf ar-lein.

Roedd y digwyddiad peilot yn caniatáu i gyfranogwyr rheolaidd a newydd yn y digwyddiadau llwyddiannus hyn barhau i ddysgu am Tsieina, ei hiaith a'i diwylliannau, a'r cyfan drwy gyfleustra eu gliniaduron a'u ffonau.

Cyflwynwyd 'Gweld Tsieina o'ch soffa' gan y tiwtor Mandarin Tian Sun, a gyflwynodd safleoedd enwog fel Gerddi Suzhou, Teml y Nefoedd a Mynydd Wudang.

Gerddi Suzhou
Gerddi Suzhou

Siaradodd hefyd am weithgareddau twristaidd fel dringo mynyddoedd, mordeithiau afonydd, ymweld â dinasoedd hanesyddol a phrofi bwydydd arbenigol lleol. Ar ôl wythnosau o'r cyfnod clo, roedd pawb yn croesawu'r daith rithwir hon!

Pan ofynnwyd beth oedd rhan orau'r digwyddiad, dywedodd un oedd yn bresennol ei fod yn addysgiadol iawn, yn llawn syniadau o lefydd i ymweld â nhw. Roedd un arall yn hofi’r elfen bersonol yn benodol, ac yn mwynhau clywed am y ddinas lle'r oedd cartref y cyflwynydd a'i hatyniadau.

Mae Sefydliad Confucius Caerdydd wedi bod yn cynnal Corneli Tsieineaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ers dwy flynedd. Mae'r digwyddiadau wedi denu amrywiaeth o bobl sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y wlad, diwylliannau ac ieithoedd tir mawr Tsieina. Ymhlith y pynciau blaenorol roedd hanes, etymoleg, gwyliau a digwyddiadau arbennig Tsieina, a chyflwyniad i Mandarin.

Cynhaliwyd y digwyddiad 'Gweld Tsieina o'ch soffa' ar 1 Gorffennaf dros Zoom, gyda dysgwyr Mandarin yn bennaf o raglenni BA Tsieinëeg, Ieithoedd i Bawb a chyrsiau rhan amser i oedolion Prifysgol Caerdydd. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad peilot, bydd Sefydliad Confucius Caerdydd yn cynnal Corneli Tsieineaidd rheolaidd o ganol mis Hydref 2020.

Cardiff Confucius Institute have been holding Chinese Corners at the School of Modern Languages for the last two years. The events have attracted a range of people interested in learning more about the country, cultures and language of mainland China. Previous topics have included Chinese history, etymology, festivals & special events, and an introduction to Mandarin.

The ‘See China from your sofa’ event on 1 July was held via Zoom, and attended by Mandarin learners largely from Cardiff University’s BA ChineseLanguages for All and part time courses for adults programmes. Following the success of this pilot event, the Cardiff Confucius Institute will be holding regular online Chinese Corners from mid-October 2020.

Rhannu’r stori hon