Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu gwaith Athro Cysylltiadau Rhyngwladol mewn cyfnodolyn rhyngwladol

23 Gorffennaf 2020

Yn rhifolyn Gorffennaf cyfnodolyn o fri ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol, mae adran arbennig wedi’i neilltuo am waith arloesol Athro o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Ychydig o fisoedd ar ôl i’w hysgoloriaeth gael ei dathlu yn rhifyn Tachwedd 2019 International Affairs, mae gwaith yr Athro Marysia Zalewski wedi’i arddangos unwaith eto yn Review of International Studies.

Mae gwaith yr Athro Zalewski’n canolbwyntio ar theori cysylltiadau rhyngwladol beirniadol a theori ffeministaidd a rhyweddol. Mae’r Athro Zalewski’n addysgu ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar fodiwlau sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Rhywedd, Rhyw a Marwolaeth mewn Gwleidyddiaeth Fyd-eang ac O Mary Wollstonecraft i Lady Gaga: Beth yw’r Ffeministiaeth ‘ma?  

Mae gan yr adran arbennig yn rhifyn Gorffennaf Review of International Studies y teitl Thinking With Gender: Feminist Methodologies of International Relations, ac mae wedi’i golygu gan yr Athrawon Helen M Kinsella a Laura J Shepherd ar wahoddiad.

Mae rhagarweiniad gan y golygyddion, The ‘brutal fecundity of violence’: Feminist methodologies of International Relations yn cael ei ddilyn gan bedair erthygl ymchwil wreiddiol sy’n defnyddio gwaith yr Athro Zalewski. Mae’r rhifolyn hwn yn diweddu â thrafodaeth rhwng Dr Cristina Masters a’r Athro Zalewski.

“I am immensely happy to be an integral part of this vibrant critical feminist collective and absolutely delighted to see these original research articles being published”.

Yr Athro Marysia Zalewski Director of People and Environment

Dyma’r erthyglau yn y cyfnodolyn:·

  • Feminist methodology between theory and praxis gan Elisabeth Prügl
  • Rethinking silence, gender, and power in insecure sites: Implications for feminist security studies in a postcolonial world gan Jane Parpart
  • Conceptus interruptus: Forestalling sureties about violence and feminism gan Anne Sisson Runyan
  • Redressing international problems: North Korean nuclear politics gan Shine Choi

Mae mynediad rhad ac am ddim at yr holl erthyglau yn adran arbennig Review of International Studies tan 31 Gorffennaf 2020.

Rhannu’r stori hon