Ymrestrwch ar amrywiaeth o gyrsiau ar-lein
21 Gorffennaf 2020
Yr hydref hwn rydym yn lansio cannoedd o gyrsiau rhan-amser i danio eich dychymyg a'ch helpu i hybu eich gwybodaeth. Er bydd gennych fynediad at wybodaeth sy'n gysylltiedig â chwrs ac adnoddau dysgu ar unrhyw adeg, byddwn yn parhau i ddefnyddio sesiynau addysgu wedi’u trefnu i chi ryngweithio â'ch tiwtor, a'ch cyd-fyfyrwyr, mewn amgylchedd ystafell ddosbarth rhithwir bywiog.
Yn gynharach eleni roedd yn rhaid i ni i gyd ddechrau ymaddasu i'r hyn y gwnaeth y cyfryngau ei alw yn 'normal newydd'. Roedd hwn yn newid seismig o ran cyflwyno cyrsiau rhan-amser i oedolion. Yn draddodiadol rydym wedi addysgu myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth am y rhan y fwyaf o'n cyrsiau ond yn sgîl digwyddiadau'r byd roedd yn rhaid i ni weithredu'n gyflym er mwyn cynnal y ddarpariaeth hon.
Roedd yn rhaid newid cyrsiau a gynlluniwyd ar gyfer yr ystafell ddosbarth i fod ar-lein. Ymatebodd ein staff addysgu a gweinyddol yn gyflym ac yn broffesiynol i'r her hon ac rydym yn gwerthfawrogi eu hymdrechion. Wrth ymateb gwnaethom ni gynnal cyfres o ddosbarthiadau iaith sgyrsiol a chwblhau’r flwyddyn academaidd bresennol yn drawiadol.
Gwobrwywyd y brwdfrydedd a'r natur benderfynol i ddarparu profiad dysgu bywiog ag adborth cadarnhaol gan ein myfyrwyr:
“Rwy'n credu bod y cwrs yn rhagorol. Roedd ystod ryfeddol o bynciau dan sylw ac addysgwyd pob dosbarth yn wych gan arbenigwr brwdfrydig a roddodd adborth meddylgar a chalonogol. Yn bendant, fe wnaeth y cwrs ehangu fy ngorwelion! Fe wnes i fwynhau'r sesiynau zoom a’r rhai wedi'u recordio, ond roedd yn well gen i’r rhai wedi’u recordio gan fod gen i hyblygrwydd i oedi a darllen rhywbeth neu feddwl drwy syniad. Diolch am gwrs gwych. ”
“Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn am y pythefnos o Ddosbarthiadau Sbaeneg. Fe wnes i eu mwynhau'n fawr iawn, roeddech chi mor garedig a brwdfrydig a dyna oedd yn eu gwneud yn hwyliog - gallai fod wedi bod yn llawer mwy brawychus ond roedd eich agwedd gadarnhaol yn help mawr! Diolch yn fawr iawn - gobeithio y byddaf yn parhau i ddysgu mwy"
Cofrestrwch ar gyfer cwrs nawr