Ail-wylltio Caerdydd gyda Gwyddonwyr Dinesig
17 Gorffennaf 2020
Mae tîm llwyddiannus Pharmabees yn datblygu cymysgedd o flodau gwyllt yn seiliedig ar blanhigion brodorol i'w dosbarthu i gymunedau lleol. Mae'r planhigion a ddewiswyd yn cefnogi peillwyr, fel gwenyn a gloÿnnod byw, ac yn y prosiect newydd hwn, mae'r tîm yn gofyn am gefnogaeth gan y cyhoedd i helpu gyda'u hymchwil.
Y nod yw i unigolion blannu'r cymysgedd o hadau gartref a monitro'r planhigion wrth iddynt dyfu. Trwy fonitro sut mae’r hadau’n tyfu - a chyfrif nifer ac amrywiaeth y peillwyr sy’n ymweld â nhw - gall trigolion helpu’r Brifysgol i ddatblygu darlun o gyflwr natur ledled y ddinas. Mae cyfarwyddiadau ar gyfer plannu, adnoddau addysgol a gweithgareddau gwyddoniaeth ar gael yma: https://sciencesessions.wixsite.com/sciencesessions
Drwy gwblhau gweithgareddau Pharmabees, bydd y defnyddiwr yn helpu i gefnogi bioamrywiaeth a phoblogaethau peillwyr ledled de Cymru ac yn dod yn rhan bwysig o'r tîm ymchwil yn sgîl hynny.
By completing the Pharmabees activities, the user will help support biodiversity and pollinator populations throughout south Wales and in so doing become an important part of the research team.