Ewch i’r prif gynnwys

Cystadleuaeth Gyfansoddi i Gynfyfyrwyr 2020

17 Gorffennaf 2020

Composer's hands at a piano

Mae cystadleuaeth gyfansoddi’r Ysgol Cerddoriaeth i gynfyfyrwyr yn agored ar gyfer ceisiadau.

Mae'n bleser gennym wahodd cynfyfyrwyr a graddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth i gyflwyno sgorau i’r gystadleuaeth. Bydd cais buddugol eleni yn cael ei berfformio gan Gerddorfa Siambr Prifysgol Caerdydd yng ngwanwyn 2021, gyda’r ymarferion yn dechrau ddiwedd Tachwedd 2020.

Lansiwyd y gystadleuaeth yn 2018, a chafwyd cynigion gan gynfyfyrwyr yr Ysgol yn ymestyn dros 30 mlynedd.

Cyfansoddwyd darn buddugol y llynedd gan Lucy McPhee sy’n fyfyriwr PhD. Cafodd ei hysbrydoli gan chwedl Blodeuwedd.

Gwahoddir holl gynfyfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth i gyflwyno cais. Croesewir darnau sydd eisoes wedi'u perfformio yn ogystal â gwaith sydd heb gael ei berfformio o'r blaen.

Mae gan Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd restr nodedig o gynfyfyrwyr sy'n gyfansoddwyr y gorffennol a'r presennol. Yn eu plith mae Grace Williams, Alun Hoddinott, Hilary Tann a Philip Cashian, yn ogystal â chymuned gref o raddedigion cyfredol a diweddar, a chyfansoddwyr ôl-raddedig. Er mwyn cryfhau’r cysylltiadau hyn a chefnogi twf cerddorol ein cynfyfyrwyr, mae’n bleser gennym gyhoeddi bydd y gystadleuaeth flynyddol hon yn cael ei chynnal am y trydydd tro.

Gwybodaeth dechnegol

Hyd: Dylai sgorau fod rhwng 7' ac 15' munud o hyd.

Offeryniaeth: Dylai’r gweithiau gael eu sgorio ar gyfer cerddorfa siambr sydd wedi’i gosod fel hyn:

2.2.2.2/2.2.0.0./llinynnau.6.6.4.4.2/tympanau/taro.2.

Dylai’r sgorau gael eu cyflwyno ar ffurf pdf at musicoffice@caerdydd.ac.uk erbyn 4pm dydd Llun 12 Hydref.

Bydd y sgorau yn ddienw ac yn cael eu cyflwyno i’w hystyried gan banel sy’n cynnwys arweinydd Cerddorfa Siambr y Brifysgol, Andrea Quinn.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.