Darganfod targedau imiwnedd newydd y tu mewn i feirws y ffliw yn cynnig gobaith / arwyddion am frechlyn cyffredinol
16 Gorffennaf 2020
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi darganfod marcwyr newydd ynghudd y tu mewn i feirws y ffliw.
Gweithiodd yr ymchwilwyr o’r Ysgol Meddygaeth gyda thîm rhyngwladol o arbenigwyr - gan gynnwys cydweithwyr o Moscow, Rwsia a Melbourne, Awstralia - i ystyried sut gwnaeth systemau imiwnedd pobl ymateb i’r marcwyr protein newydd.
Dangoson nhw am y tro cyntaf fod celloedd T “cynorthwyol”, math o gell wen y gwaed sy’n gallu rhwystro gweithgarwch feirysau, yn actifadu wrth ddod i gysylltiad â nhw.
Yn bwysig, darganfyddon nhw fod y marcwyr mewnol hyn yn amrywio ychydig iawn ar draws gwahanol rywogaethau, sy’n golygu y gallen nhw fod yn darged posibl newydd ar gyfer brechlyn, a allai amddiffyn rhag pob ffurf o’r ffliw.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod hyd at 650,000 o farwolaethau resbiradol ar draws y byd bob blwyddyn yn gysylltiedig â’r ffliw tymhorol.
Yn ôl y prif awdur, Dr Alex Greenshields-Watson o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Yn wahanol i broteinau allanol y ffliw, sef y prif dargedau ar gyfer brechlynnau presennol, mae’r proteinau mewnol hyn yn gyson iawn rhwng gwahanol rywogaethau’r ffliw.
“Golyga hyn y byddai brechlynnau neu therapïau sy’n targedu’r proteinau mewnol hyn yn gweithio ar gyfer mathau cyffredin a newydd o’r feirws.
“Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio y gallai hyn leihau’r angen am wneud brechlynnau tymhorol sy’n seiliedig ar ragweld pa rywogaethau o’r ffliw allai godi mewn blwyddyn benodol.”
Pan mae feirws y ffliw’n heintio cell, mae rhai o’i broteinau mewnol - sy’n hanfodol ar gyfer gweithgarwch y feirws - yn cael eu torri a’u dangos ar arwyneb y gell.
Yr effaith yw bod hyn yn rhoi “ffenestr” unigryw i gelloedd T cynorthwyol y corff i mewn i’r gell heintiedig, fel y gall celloedd T lleiddiol ei dinistrio, gyda’r nod o glirio’r haint o’r corff:
Gall y ffliw newid ei broteinau allanol yn hawdd iawn - ond gall ei broteinau mewnol fod yn gyffredin i lawer o rywogaethau’r ffliw.
Mae’r ymchwilwyr yn credu mai targedu’r marcwyr hyn allai fod yr allwedd at ddatblygu brechlyn cyffredinol.
Yn yr astudiaeth hon, roedd y gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn gallu mapio ymateb celloedd T cynorthwyol i broteinau mewnol penodol. Darganfyddon nhw fod gan lawer o unigolion yr un derbynyddion ar gyfer y proteinau hyn ar gelloedd T cynorthwyol.
Yn y diwedd, drwy ddefnyddio Diamond Light Source, cyfleuster gwyddoniaeth syncrotron y DU, roedd y grŵp yn gallu defnyddio golau dwys, sydd 10 biliwn gwaith yn fwy disglair na'r haul, i ddatgelu sail foleciwlaidd yr adnabyddiaeth.
Dywedodd un o gyd-awduron yr astudiaeth, yr Athro Andrew Godkin: “Canlyniadau diddorol iawn yw’r rhain. Rydym wedi dangos bod rhannau cyson iawn o broteinau mewnol feirysau’r ffliw yn cael eu hadnabod gan y system imiwnedd. Ar ben hynny, rydym wedi dangos bod y dilyniannau hyn yn gyson iawn ar draws degau o filiynau o ddilyniannau feirysol.
“Mae hyn yn codi’r cwestiwn diddorol, pam nad ydym ni’n fwy diogel rhag rhywogaethau newydd y ffliw a feirysau tebyg sydd â’r un dilyniannau a ddylai sbarduno ymateb gan ‘gof’ ein system imiwnedd.
“Rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ddeall y cwestiwn hwn, yn y gobaith y bydd hyn yn arwain at ddylunio brechlynnau gwell yn y dyfodol.”
Dywedodd un o’r cyd-awduron, Dr David Cole: “Rydym wedi ymchwilio i ymatebion celloedd T i’r darnau o broteinau cyson y ffliw yn drylwyr, drwy edrych ar ymatebion mewn pobl, yn ogystal â manteisio ar gyfleusterau o’r radd flaenaf i ddatrys strwythurau atomig y darnau hyn.
“Mae’r golwg cydraniad uchel hwn wir yn ein helpu i ddeall sut mae ein cyrff yn ‘gweld’ heintiau feirysol ar lefel foleciwlaidd, a allai lywio strategaethau ar gyfer triniaethau newydd. Gobeithiaf y bydd y darganfyddiadau hyn yn sbarduno ymchwil newydd i ymatebion celloedd T cynorthwyol i heintiau.”
Cafodd yr ymchwil ei hariannu gan Ymddiriedolaeth Wellcome, Gwyddorau Bywyd (Llywodraeth Cynulliad Cymru), gyda chefnogaeth gan gyfleusterau a staff Diamond Light Source.
Cafodd y canfyddiadau eu cyhoeddi’r wythnos hon yng nghyfnodolyn Cell Reports.