Mae Porth Cymunedol a Chaerdydd Creadigol wedi ffurfio partneriaeth newydd a chyffrous ar gyfer 2020
15 Gorffennaf 2020
Rhwydwaith yw Caerdydd Creadigol sy'n cysylltu pobl sy'n gweithio mewn unrhyw sefydliad, busnes neu swydd greadigol yn rhanbarth Caerdydd. Trwy annog pobl i weithio gyda'i gilydd maent yn credu y gallant wneud Caerdydd y lle mwyaf creadigol y gall fod. Gallwch ddarganfod mwy am eu gwaith yma (https://www.creativecardiff.org.uk/cy).
Trwy’r bartneriaeth hon, nod Caerdydd Creadigol yw codi ymwybyddiaeth o waith Porth Cymunedol, cysylltu mwy o bobl greadigol â’r prosiect ac ymgysylltu mwy o drigolion Grangetown â gwaith Caerdydd Creadigol.
Rhaglen ymgysylltu Prifysgol Caerdydd yw Porth Cymunedol sy'n brocera partneriaethau rhwng Prifysgol Caerdydd a chymunedau yn Grangetown. Mae wedi lansio mwy na 60 o brosiectau prifysgol-cymuned gan wneud cysylltiadau rhwng staff y Brifysgol, myfyrwyr a thrigolion Grangetown i helpu i ddod â syniadau a arweinir gan y gymuned yn fyw. Un o'r prosiectau hynny yw ailddatblygu Pafiliwn Grange o gyn bafiliwn bowlenni i fod yn ganolfan cymunedol i drigolion lleol. Gallwch ddarganfod mwy am Bafiliwn Grange yma (https://www.cardiff.ac.uk/cy/community-gateway/our-projects/community-meeting-places/grange-gardens-bowls-pavilion).
I nodi a dathlu agoriad Pafiliwn Grange newydd, mae Caerdydd Creadigol a Phorth Cymunedol wedi ymuno i adrodd stori Pafiliwn Grange. Byddwn yn dathlu’r siwrnai hon trwy dynnu sylw at straeon personol gan drigolion Grangetown a dod â nhw yn fyw fel gwaith celf a fideos gyda chymorth cymuned greadigol Caerdydd.
Comisiynodd Caerdydd Creadigol darlunydd o Gaerdydd, Jack Skivens, i adrodd hanes taith wyth mlynedd Grange Pavilion o lawnt fowlio i ganolfan gymunedol. Mae wedi bod yn brysur yn darlunio a bydd y darn olaf yn cael ei lansio'n ddigidol ym mis Gorffennaf. I ddarganfod mwy am brosesau creadigol Jack, effaith COVID-19 ar ei waith a'i brofiad yn creu bwrdd stori yn cipio wyth mlynedd o Brosiect Pafiliwn Grange, cliciwch yma (https://www.creativecardiff.org.uk/cy/community-gateway/y-darlunydd-jack-skivens-syn-siarad-am-ei-broses-creeadigol-ac-adrodd-stori).
Byddwn yn rhannu diweddariadau trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Facebook ac Instagram) ac ar y wefan hon fel erthyglau, ond os hoffech wybod mwy, anfonwch e-bost atom yn communitygateway@cardiff.ac.uk.
Dilynwch ni @CommunityGtwy