Gwaith labordy ar y campws yn dychwelyd o’r diwedd
15 Gorffennaf 2020
Mae’r Ysgol Cemeg wedi dechrau ei dychweliad graddol i waith labordy ar y campws, wrth i ni weld y cyfyngiadau cenedlaethol oherwydd COVID-19 yn dechrau llacio.
Cynhaliwyd gwaith cynnal a chadw’r Ysgol drwy ymdrechion staff y gwasanaethau proffesiynol o dan Dr Rob Jenkins, sydd wedi sicrhau bod cyfarpar hanfodol, fel peiriannau NMR, wedi’u cynnal yn iawn drwy gydol y cyfnod clo.
Mae’r tîm wedi bod yn arbennig o brysur yn gosod ystod o arwyddion a mannau diheintio dwylo newydd ledled yr Ysgol, gan alluogi’r cam cyntaf o groesawu ymchwilwyr yn ôl.
Bydd y mwyafrif o waith ymchwil Cam 1 yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n cyfrannu at yr ymgyrch genedlaethol i ddeall y coronafeirws yn well, datblygu triniaethau effeithiol ac atal ei ledaeniad ymhlith y boblogaeth.
Mae Dr Louis Luk yn fiolegydd cemegol sydd wedi datblygu prosiect cydweithredol rhwng Prifysgolion Caerdydd a Xiamen am ddarganfod cyfansoddion plwm all dargedu heintiau SARS-CoV-2 yn benodol, ynghyd â’r “storm cytocin” gysylltiedig.
Mae triniaethau presennol, fel Remdesivir, yn dibynnu ar gyffuriau presennol sydd wedi’u datblygu ar gyfer heintiau perthnasol. Bydd gwaith Dr Luk yn cyfrannu at ddulliau newydd wedi’u targedu, er mwyn mireinio adnoddau clinigwyr.
Mae tîm ymchwil o dan yr Athro John Pickett yn pennu protocolau dadansoddol newydd ar gyfer archwilio cyfansoddion anweddol ynghlwm wrth fygydau a dillad. Maent am adnabod cyfansoddion organig anweddol diagnostig ar gyfer unigolion sydd wedi’u heintio â SARS-CoV-2 o’r mygydau neu’r sanau y mae pobl heintiedig wedi’u gwisgo, drwy eu cymharu â samplau o bobl heb eu heintio er mwyn osgoi canlyniadau cadarnhaol anghywir.
Maent yn gobeithio y bydd hyn yn cyfrannu at ddulliau diagnostig cyflym anymwthiol â thrwybwn uchel ar gyfer canfod heintiau ymhlith y boblogaeth gyffredinol.
Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd a’r arbenigwyr dadansoddol cyseiniant sbin electronau uwch yn ymuno mewn ymdrech Cam 1 hefyd. Maent yn gweithio ar ffyrdd o wella’r protocolau glanhau dwfn sydd eu hangen i gadw pobl yn ddiogel, wrth i ni ddechrau ar ein bywydau ‘normal newydd’.
Drwy roi ymchwilwyr Cam 1 ar waith yn llwyddiannus, mae ein cynlluniau ar y trywydd iawn ar gyfer dychweliad Cam 2, wrth i ni geisio ailagor ein labordai gweddilliol i staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.