Gallwch ei weld yn eu llygaid: Mae digwyddiadau trawmatig yn gadael eu hôl ar gannwyll y llygad, yn ôl astudiaeth newydd
17 Gorffennaf 2020
Mae canhwyllau llygaid pobl sy’n dioddef o anhwylder pryder ôl-drawmatig yn ymateb yn wahanol i’r rheiny heb yr anhwylder wrth edrych ar ddelweddau emosiynol, yn ôl astudiaeth newydd.
Bu’r astudiaeth yn edrych am olion digwyddiad trawmatig ar lygaid cleifion gyda PTSD, sy’n gallu digwydd ar ôl digwyddiad gofidus ac sy’n achosi sensitifrwydd uwch, neu orgynhyrfu mewn ymateb i ddigwyddiadau dydd i dydd ac anallu i ymlacio ac anghofio am y byd a’i bethau.
Mesurodd ymchwilwyr faint canhwyllau llygaid y cyfranogwyr tra eu bod yn dangos delweddau bygythiol iddynt, fel anifeiliaid cas neu arfau, yn ogystal a delweddau eraill o ddigwyddiadau niwtral, neu ddelweddau dymunol hyd yn oed.
Eu canfyddiad oedd bod ymateb pobl sy’n dioddef o PTSD yn wahanol iawn, gan gynnwys i bobl a oedd wedi eu trawmateiddio ond nad oedd yn dioddef o PTSD.
I ddechrau, doedd cannwyll y llygaid ddim yn darwasgu’n sydyn fel sydd fel arfer yn digwydd mewn ymateb i unrhyw ysgogiad gweledol newydd, ond yna roedd cannwyll eu llygaid yn tyfu’n fwy mewn ymateb i’r symbyliadau emosiynol o gymharu â’r cyfranogwyr eraill.
Dywedodd yr Athro Robert Snowden, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: “Roedd disgwyl y byddai’r cleifion PTSD yn ymateb yn gryfach i’r lluniau bygythiol ac mae’n cyd-fynd â’r ffaith fod pobl sy’n dioddef o PTSD yn orsensitif i’r byd o’u hamgylch gan fod ymateb y system nerfol ymatebol yn orfywiog.
“Fodd bynnag, mae’r diffyg darwasgu’n eithaf newydd ac mae’n awgrymu fod ganddynt broblemau gyda’u system barasympathetig yn ogystal. Dyma’r system sy’n helpu’r corff i ddychwelyd i lefelau gorffwys normal ac i wella ar ôl digwyddiadau sy’n achosi straen.
“Mae’r ymchwil yn awgrymu fod y bobl hyn yn wyliadwrus drwy’r amser ac yn ymateb yn gryf i ddelweddau sy’n gallu cynhyrfu.”
Cafwyd canlyniad annisgwyl arall. Roedd canhwyllau llygaid cleifion â PTSD yn dangos gor-ymateb i ysgogiadau bygythiol, ond hefyd i ysgogiadau a oedd wedi’u dyfarnu fel rhai “positif”, fel darluniau chwaraeon cyffrous.
Dywedodd yr Athro Nicola Gray, Cyd-awdur yr astudiaeth o Brifysgol Abertawe: “Mae hyn yn dangos bod gor-ymateb cannwyll y llygad yn ymateb i unrhyw ysgogiad cynhyrfus, nid rhai bygythiol yn unig.
“Gallai hyn ein galluogi i ddefnyddio’r lluniau positif hyn yn ystod therapi, yn hytrach na dibynnu ar ddarluniau negyddol a allai beri gofid i’r claf, ac felly byddai therapi yn fwy derbyniol a goddefadwy.
“Mae disgwyl y bydd pandemig Covid-19 yn achosi twf uchel mewn achosion PTSD o ganlyniad i’r digwyddiadau trawmatig sydd wedi digwydd. Yn amlwg, byddai dulliau therapi gwell yn gymorth mawr, ond mae angen profi’r syniadau hyn cyn eu defnyddio’n glinigol.”
Dywedodd y prif awdur, yr Athro Aimee McKinnon, a gydlynodd yr ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, ond sydd bellach ym Mhrifysgol Rhydychen: “Mae’r darganfyddiadau hyn yn ein galluogi i ddeall bod pobl sy’n dioddef o PTSD wedi’u preimio’n awtomatig i ymateb i fygythion neu ofn mewn unrhyw gyd-destun emosiynol ansicr. Maent hefyd yn ein galluogi i ystyried gymaint o faich yw hyn yn eu bywyd bob dydd.
“Mae hefyd yn awgrymu ei bod hi’n bwysig i ni gydnabod nad dim ond yr ysgogiadau sy’n seiliedig ar ofn sydd angen cael eu hailystyried yn fwriadol. Os oes rhywun â PTSD yn wynebu lefel uchel o ysgogiad emosiynol, hyd yn oed os yw’n emosiwn positif, gallai ysgogi’r system fygythiadau ar unwaith.
“Mae angen i glinigwyr ddeall effaith ysgogiad positif er mwyn gallu cefnogi defnyddwyr eu gwasanaethau i oresgyn yr heriau sylweddol y maent yn eu wynebu.”
O’r holl gyfranogwyr, roedd 20 yn bodloni’r meini prawf diagnostig ar gyfer Anhwylder straen wedi trawma (PTSD), roedd 28 wedi dioddef trawma (ond ddim yn dioddef o PTSD), ac roedd 17 yn gyfranogwyr rheoli nad oedd wedi adrodd am unrhyw brofiad blaenorol o drawma. Cafodd yr ymchwil ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Biological Psychology.