Ewch i’r prif gynnwys

Gwrthod dychwelyd i’r hyn sy’n arferol

21 Mai 2020

Image of digital display

Ffyrdd cadarnhaol ac ymarferol o adfer yr economi ar ôl COVID-19 oedd canolbwynt cyfarfod diweddaraf cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd.

Y Dr Jonathan Preminger, Darlithydd Cysylltiadau Gwaith a Llafur yn Ysgol Busnes Caerdydd, lywiodd drafodaeth am achub ac ailosod economi’r deyrnas hon ar ôl COVID-19 trwy gyfnewid dyledion am ecwiti.

Mae’r syniad, wedi’i lunio ar y cyd â’r Dr Guy Major (Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd) a Jenny Rathbone (Aelod y Cynulliad dros Ganol Caerdydd), yn ymwneud â manteisio ar y pandemig yn gyfle i ddiwygio’r gyfraith a newid arferion cymdeithasol.

“Bydd y math o atebion sy’n cael eu cynnig yn effeithio’n fawr ar ein cymdeithas ar ôl y pandemig. Byddwn ni’n hyrwyddo atebion yn ôl y gymdeithas rydyn ni’n ei gweld yn un ddelfrydol neu’r math o gymdeithas rydyn ni’n anelu ati. Mewn byr o eiriau, mater gwleidyddol yw hwn - nid un technegol.”

Dr Jonathan Preminger Lecturer

Cylch niweidiol dyledion

Esboniodd y bydd cwmnïau’n wynebu rhagor fyth o ddyledion ar ôl y pandemig, a bydd rhaid ymdopi â dirwasgiad difrifol ar ben hynny, hefyd.

Mae’u dyledion yn debygol o gynyddu’r llog ar unrhyw fenthyciadau newydd, a bydd gweithwyr yn dioddef yn sgîl hynny trwy gyflogau llai eu gwerth, toriadau yn eu cyflogau a diswyddiadau mewn rhai achosion, hyd yn oed.

Ar ôl disgrifio’r cyd-destun mae’r syniad wedi’i lunio ar ei gyfer, dywedodd y Dr Preminger y gallai fod modd ateb y broblem trwy fuddsoddi ecwiti.

Peryglon a buddion

Dadleuodd o blaid caniatáu i gwmnïau a ddaw trwy’r pandemig gyfnewid benthyciadau gwladol am gyfrannau ecwiti y byddai modd eu masnachu - cyfrannau na fydd angen eu had-dalu ac a fydd yn galluogi rhanddeiliaid i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am beryglon a derbyn mwy o fuddion.

Cydnabu’r Dr Preminger fod anawsterau i gynnig o’r fath, megis:

  • Byddai cwmnïau’n gyndyn o ildio rheolaeth i randdeiliaid allanol.
  • Gallai buddsoddwyr gadw draw rhag buddsoddiadau na allan nhw eu rheoli na’u diogelu.

Yn ymateb, meddai: “Rydyn ni’n cynnig trefn a fydd yn cydblethu buddiannau’r perchnogion, y gweithwyr a’r buddsoddwyr presennol. Rydyn ni’n cynnwys llywodraeth y wlad ymhlith y buddsoddwyr - yn y lle cyntaf, o leiaf...”

“Dylid rhannu gwerth ychwanegol cwmni (faint mae’n ei werthu llai costau llafur) rhwng y staff a’r buddsoddwyr trwy fformwla y cytunon nhw arni. Pan fo’r cwmni’n ffynnu, bydd ei weithwyr a’i fuddsoddwyr fel ei gilydd ar eu hennill, a byddan nhw’n rhannu unrhyw risgiau hefyd, wrth gwrs. Felly, trwy ymdrechu i gynyddu eu cyflogau, bydd staff yn gweithio er lles buddsoddwyr, hefyd.”

Cyn cau’r cyfarfod, disgrifiodd y Dr Preminger fanteision cyfnewid dyledion am ecwiti.

Mae rhagor am y cynnig yn erthygl y Dr Preminger ar weblog Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Yn sgîl cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru o achos pandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol yn cynnal y gyfres ar y we.

Os na allech chi fod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.