Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth am fynd i'r afael â thlodi bwyd

13 Gorffennaf 2020

Dusty Forge centre in Cardiff
The Dusty Forge centre in Ely, Cardiff

Mae prosiect ‘bwyd pantri’ Cymru yn dod â chynnyrch ffres i deuluoedd incwm isel o ganlyniad i bartneriaeth a fanteisiodd ar arbenigedd Prifysgol Caerdydd.

Ymunodd Ysgol Busnes Caerdydd a Bwyd Caerdydd i ddatblygu ffordd o alluogi pobl mewn tlodi bwyd i gael gafael ar fwyd ffres iachus a fforddiadwy.

Mae mwy nag 1 o bob 5 o bobl yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Yng Nghaerdydd yn unig, rhoddwyd 13,248 o becynnau o fwyd am dridiau i bobl leol mewn argyfwng gan Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019, gyda 5041 (38%) yn cael eu rhoddi i blant.

Bwyd Caerdydd yw partneriaeth fwyd leol y ddinas, un o sefydlwyr rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy'r DU. Ymunodd y sefydliad ag Ysgol Busnes Caerdydd, a gyflenwodd arbenigedd am gadwyni cyflenwi masnachol i ddatblygu model bwyd economaidd cynaliadwy wedi'i seilio ar fenter gymdeithasol.

Gwnaeth y bartneriaeth dreialu a lansio’r prosiect - Siop Gymunedol Eich Pantri Lleol - yng Nghanolfan Dusty Forge yn Nhrelái, Caerdydd.

Mae pobl yn ymuno fel aelodau, gan dalu £5 yr wythnos, yna gallant ddewis o leiaf ddeg eitem o fwyd bob wythnos, ynghyd â chyfleoedd ychwanegol ar gyfer gwirfoddoli a hyfforddiant sgiliau. Mae gan fwy na 3,000 o gartrefi yn Nhrelái a Chaerau incwm cartref sy'n is na 60% o incwm canolrifol y DU.

Mae'r pantri yn cefnogi anghenion cenedlaethau lluosog. Er enghraifft, mae aelodau hŷn wedi nodi manteision fel gallu cyrchu ‘pecynnau stiw’ maethlon sy’n golygu gall pobl â symudedd is goginio bwyd cartref.

Dywedodd Pearl Costello, o Fwyd Caerdydd: “Mae hon yn ffordd gynaliadwy, hirdymor o fynd i’r afael â thlodi bwyd ym maestref fwyaf difreintiedig Caerdydd. Fel clwb aelodaeth, mae Eich Pantri Lleol yn dileu stigma cymdeithasol o dderbyn bwyd rhad ac am ddim ac yn cynnig ffordd ariannol gynaliadwy o ddod â chynnyrch ffres i gymunedau lleol. Yn ystod y chwe mis cyntaf o gynnal Pantri Dusty Forge, mae’r aelodau ar y cyd wedi arbed amcangyfrif o £25,000 ar eu bil bwyd - ac rydym yn disgwyl i hyn godi i oddeutu £75,000 yn flynyddol wrth i'r aelodaeth gynyddu."

Dywedodd y cydlynydd cymorth cymunedol Sam Froud-Powell, sy'n rheoli'r pantri: “Roeddwn i'n meddwl y byddai'n berffaith i Drelái oherwydd mae yna lawer o deuluoedd sydd mewn tlodi bwyd ac yn ei chael hi'n anodd fforddio bwyd iachus ac sydd ag incwm yn gostwng. Rwy’n hoffi’r prosiect gan nad yw'n ymwneud â chael perthynas elusennol â phobl ond ymgysylltu â'r gymuned ynglŷn â bwyd a mynd i'r afael â phroblemau go iawn am fwyd."

Dywedodd Dr Yingli Wang, o Ysgol Busnes Caerdydd: “Bellach mae gan y pantri dros 200 o aelodau gyda llawer ar y rhestr aros. Mae wedi cynhyrchu allbynnau gweladwy gan gynnwys costau arbed o £700 y flwyddyn fesul aelod, ac mae modd efelychu hyn a’i ehangu ledled Cymru.  Oherwydd arbedion effeithlon yn y gadwyn gyflenwi, mae'r pantri hefyd yn atal 12,000kg o wastraff bwyd rhag mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn a gostyngiad o 7.5 tunnell y flwyddyn mewn allyriadau CO2."

Cefnogir Siop Gymunedol Eich Pantri Lleol yn y Dusty Forge gan Church Action on Poverty, Rhwydwaith Bwyd Caerdydd, Food Power a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (Arian i Bawb).

Mae Dr Wang ac Ysgol Busnes Caerdydd yn parhau i weithio gyda Bwyd Caerdydd gyda'r nod o sefydlu o leiaf deg pantri ledled Cymru erbyn 2023.

Mae'r prosiect yn dod â manteision academaidd i Ysgol Busnes Caerdydd. Bydd gwersi a ddysgwyd o'r broses uwchraddio yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddisgyblaethau rheoli, rheoli'r gadwyn gyflenwi a gweithrediadau, ynghyd ag astudiaethau entrepreneuraidd.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.