Dilyniannu DNA cyflymach yn trawsnewid triniaeth HIV
13 Gorffennaf 2020
Mae partneriaeth sy'n mynd i'r afael â HIV yng Nghymru trwy gymhwyso dilyniannu DNA cyflymach i brofion cleifion torfol wedi'i chydnabod am arloesedd yn y biowyddorau.
Wedi'i datblygu gan Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW), mae'r system yn dod â manteision i bob claf HIV a TB yng Nghymru.
Ymunodd Dr Thomas R. Connor, arweinydd y grŵp ymchwil Microbiomau, Microbau a Gwybodeg (MMI) ym Mhrifysgol Caerdydd, â PHW i gymhwyso genomeg - yr astudiaeth o lasbrint genetig organeb - i greu gwasanaeth diagnostig genomig clinigol HIV cenedlaethol fel rhan o Bartneriaeth Genomeg Cymru, wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cydweithrediad yn manteisio ar Ddilyniannu’r Genhedlaeth Nesaf (NGS) - ffordd gyflymach a rhatach o ddilyniannu RNA/DNA - trwy ei gymhwyso i ddatblygu a mabwysiadu profion mwy cyflym a chywir ar gyfer HIV a TB sy'n helpu i sicrhau bod cleifion yn cael y cyffuriau cywir.
Mae'r bartneriaeth yn un o chwech a amlygwyd gan Brifysgol Caerdydd yr haf hwn am ei harloesedd arloesol.
Ychwanegodd Dr Connor: “Rydym ni wrth ein bodd bod ein partneriaeth yn cael ei hamlygu gan Brifysgol Caerdydd. Defnyddir NGS yn helaeth ar gyfer mapio côd genetig samplau microbiolegol mewn ymchwil. Yr her a wynebwyd gennym oedd sut i brosesu, storio a manteisio ar y data i'w ddefnyddio ym maes iechyd y cyhoedd - maes sy'n gofyn am weithrediad cadarn, achrededig y gellir ei efelychu.
“Rydym wedi gallu trosi ein hymchwil - gan gwmpasu dilyniannu a dadansoddi genomau mewn modd cyflym, sensitif a manwl - i wella'r modd y darperir gwasanaethau, cynyddu cywirdeb a lleihau amser diagnostig gan arwain at allu well i drin a rheoli cleifion ar gyfer yr holl bobl HIV-positif yng Nghymru."
Yn ôl Dr Tracey Cooper, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae dros 2,500 o gleifion HIV yng Nghymru, gyda 100-200 o ddiagnosau newydd bob blwyddyn, ac mae pob un ohonynt yn dibynnu ar NGS ar gyfer pennu math i feirysau. Mae’r ymchwil arloesol hon, dan arweiniad Grŵp MMI Prifysgol Caerdydd, wedi cymhwyso NGS i iechyd y cyhoedd am y tro cyntaf, gan alluogi PHW i gynnig gofal gwirioneddol bersonol i bob claf HIV a TB yng Nghymru gyda chanlyniadau rhagorol.”
Yn ogystal â phrofion genomig newydd, datblygodd y bartneriaeth system well ar gyfer olrhain feirws y Ffliw - gan gyflwyno system sy'n darparu un o'r systemau cyflymaf yn y byd ar gyfer adrodd am enomeg y ffliw. Mae'r dull yn helpu'r GIG yng Nghymru i ymateb yn well yn ystod tymor y ffliw ac mae'n cyfrannu at ymdrechion i ddylunio brechlynnau’n fyd-eang.
Mae Dr Connor yn arwain ymdrechion yng Nghymru, gan weithio gyda chydweithwyr yn PHW a Phrifysgol Caerdydd i gymhwyso'r un dulliau i fapio lledaeniad y Coronafeirws fel rhan o brosiect gwerth £20m a gyhoeddwyd gan brif gynghorydd gwyddonol y DU.
Mae Consortiwm Genomeg COVID-19 y DU (COG-UK) yn adeiladu'n uniongyrchol ar y gwaith HIV a Ffliw, gyda hyb dilyniannu Cymru COG-UK eisoes wedi dilyniannu, rhannu a dadansoddi mwy na 5,000 o genomau COVID-19 hyd yma. Mae'r gwaith hwn sy'n arwain y byd yn adeiladu ar y cydweithrediad llwyddiannus rhwng PHW a Phrifysgol Caerdydd er mwyn ymateb i bandemig byd-eang. Mae'r gwaith hwn hefyd yn cael effaith wirioneddol yng Nghymru trwy ddarparu dadansoddiad ar gyfer popeth, o ymateb i achosion, i olrhain ymlediad COVID-19 yng Nghymru a'r DU.
Dr Tracey Cooper, Chief Executive Officer of Public Health Wales, said: “There are over 2,500 HIV patients in Wales, with 100-200 new diagnoses every year, all of whom rely on NGS for virus typing. This ground-breaking and innovative research, led by Cardiff University’s MMI Group, has applied NGS to public health for the first time, allowing PHW to provide truly personalised care to all HIV and TB patients in Wales with outstanding results.”
In addition to new genomic tests, the partnership also developed a better system for tracking the Influenza virus – providing a system that delivers one of the fastest influenza genomic flu reporting systems in the world. The approach helps the NHS in Wales to better respond during the flu season and contributes to vaccine design efforts globally.
Dr Connor is leading efforts in Wales, working with colleagues within PHW and Cardiff University to apply these same approaches to, map the spread of coronavirus as part of a £20m project announced by the UK’s chief scientific adviser.
The COVID-19 Genomics UK Consortium (COG-UK) builds directly on the HIV and Influenza work, with the Welsh sequencing hub of COG-UK having already sequenced, shared and analysed more than 5,000 COVID-19 genomes to date. This world leading work builds upon the successful collaboration between PHW and Cardiff University in order to respond to a global pandemic. This work is also having a real impact in Wales by providing analysis for everything from outbreak response to national tracking of the spread of COVID-19 in Wales and the UK.