Ethol Pennaeth yr Ysgol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
8 Gorffennaf 2020
Mae Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, wedi cael ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sef academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau. Mae derbyn Cymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth ym maes dysg.
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas: “Rwyf i wrth fy modd yn gweld ethol 43 o Gymrodyr newydd, sydd unwaith eto’n dangos y talentau sy’n gysylltiedig â Chymru, fydd yn atgyfnerthu gwaith y Gymdeithas, yn cydnabod rhagoriaeth, hyrwyddo ymchwil a defnyddio ein harbenigedd i wasanaethu’r Genedl.”
Graddiodd Dr Foster Evans o Brifysgol Caergrawnt cyn cwblhau ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ymunodd â Phrifysgol Caerdydd fel darlithydd yn y Gymraeg yn 1998 a daeth yn bennaeth ar Ysgol y Gymraeg yn 2017.
Prif faes ymchwil Dr Foster Evans yw barddoniaeth yr Oesoedd Canol diweddar ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y berthynas rhwng barddoniaeth, hunaniaeth, diwylliant materol a’r amgylchedd. Ail faes o ddiddordeb yw’r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd.
Sefydlwyd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2010. Hyrwyddo rhagoriaeth ac ysgolheictod, ysbrydoli dysg a gweithredu er budd y genedl yw ei chenhadaeth.
Bydd pwyllgor craffu perthnasol yn ystyried pob enwebiad ar gyfer Cymrodoriaeth. Ar ôl cael eu hethol, bydd Cymrodyr yn cefnogi amcanion y Gymdeithas drwy hyrwyddo ymchwil, cyfrannu arbenigedd a hybu dysg a thrafodaeth.