Ar y Brig yng Nghymru ar gyfer Astudiaethau Celtaidd
8 Gorffennaf 2020

Mae tabl cynghrair y Complete University Guide 2021 wedi gosod Ysgol y Gymraeg yn y safle cyntaf ar gyfer Astudiaethau Celtaidd yng Nghymru, a hefyd yn uwch nag unrhyw brifysgol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dringodd Ysgol y Gymraeg ddau safle eleni, a dim ond Prifysgol Caergrawnt a sgoriodd yn uwch drwy’r DU.
Yn ogystal, Ysgol y Gymraeg a sgoriodd uchaf yn y DU am ragolygon gyrfaol ym maes Astudiaethau Celtaidd. Dengys arolwg yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) o Ymadawyr Addysg Uwch fod 91% o raddedigion yr Ysgol mewn swydd a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio.
Dywedodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Mae’n braf iawn gweld gwaith caled staff yr Ysgol yn cael ei gydnabod yng nghanlyniadau diweddaraf y Complete University Guide. Mae’r modd y maent yn darparu addysg o’r radd flaenaf yn ogystal â chyhoeddi ymchwil o’r safon uchaf yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono."

“Mae brwdfrydedd a phositifrwydd yr holl staff wrth barhau i ddiwallu anghenion myfyrwyr wedi bod yn rhyfeddol, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. Hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith caled ac yn enwedig am y ffordd y maen nhw wedi ymateb i heriau ac ansicrwydd y misoedd diwethaf.”
Ychwanegodd: “Rydym nawr yn gweithio’n galed ar gynlluniau ar gyfer mis Medi ac yn edrych ymlaen yn arw at weld wynebau cyfarwydd unwaith eto a chroesawu myfyrwyr newydd i’r campws ac i’n cymuned.”
Mae’r Complete University Guide yn rhestru dros 130 o brifysgolion y DU ar sail safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd gwaith ymchwil a rhagolygon i raddedigion ac mae nifer fawr o ymgeiswyr yn ei ddefnyddio i helpu dewis prifysgol.
Mae Ysgol y Gymraeg yn cyson ragori mewn gwahanol dablau cynghrair. Yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2019, cafwyd sgoriau o 100% am fodlonrwydd cyffredinol a 100% am fodlonrwydd ar y rhaglen BA yn y Gymraeg.
Rhannu’r stori hon
Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.