Gan bwyll a mynd ati i goginio: Prin a newidiodd arferion bwyta pobl yn sgîl y Goncwest Normanaidd yn 1066
7 Gorffennaf 2020
Mae archaeolegwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Sheffield wedi cyfuno’r dulliau gwyddonol diweddaraf i gynnig goleuni pellach ar fywyd yn ystod y Goncwest Normanaidd yn Lloegr.
Hyd yma, adroddwyd stori’r Goncwest yn bennaf o dystiolaeth o ddosbarthiadau elitaidd yr oes. Serch hynny, prin a wyddom am sut yr effeithiodd ar fywydau pobl bob dydd.
Defnyddiodd y tîm ymchwil, a oedd hefyd yn cynnwys academyddion o Brifysgol Bryste, amrywiaeth o dechnegau bioarchaeolegol i gymharu esgyrn o bobl ac anifeiliaid o safleoedd ledled Rhydychen, yn ogystal â chrochenwaith a ddefnyddiwyd i goginio. Mae eu canlyniadau’n awgrymu amrywiadau tymor byr yn unig mewn cyflenwadau bwyd yn dilyn y Goncwest, na chafodd effaith andwyol ar iechyd cyffredinol y boblogaeth.
Yn ôl tystiolaeth, arweiniodd y Goncwest Normanaidd at arferion amaethyddol torfol mwy rheoledig a safonol. Daeth porc yn ddewis mwy poblogaidd a defnyddiwyd llai o gynnyrch llaeth. Ond, ar y cyfan, prin fu’r newid mewn deiet oedd yn cynnwys llysiau, grawnfwyd, cig eidion a chig dafad yn bennaf.
Meddai Dr Elizabeth Craig-Atkins o Adran Archaeoleg Prifysgol Sheffield: “Mae archwilio tystiolaeth archeolegol am ddeiet ac iechyd y werin a fu’n byw yr adeg honno yn rhoi darlun manwl i ni o’u profiadau cyffredin a’u ffordd o fyw. Er gwaethaf newidiadau gwleidyddol ac economaidd mawr y cyfnod, mae ein dadansoddiad yn awgrymu efallai mai effaith gyfyngedig yn unig a gafodd y goncwest ar ddeiet ac iechyd pobl.
“Yn sicr mae tystiolaeth bod pobl wedi profi cyfnodau lle roedd bwyd yn brin. Ond, yn dilyn hyn, oherwydd ffermio dwys, roedd gan bobl gyflenwad bwyd mwy cyson a deiet cyson. Ar wahân i borc yn dod yn ddewis bwyd mwy poblogaidd, prin a newidiodd arferion bwyta a dulliau coginio.”
Defnyddiodd ymchwilwyr ddulliau dadansoddi isotopau sefydlog ar esgyrn i gymharu 36 unigolyn y daethpwyd o hyd iddynt mewn amryw leoliadau ledled Rhydychen, a oedd wedi byw rhwng y degfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg. Caiff signalau o fwyd rydym yn ei fwyta eu harchifo fel olinyddion cemegol yn ein hesgyrn, gan ganiatáu i wyddonwyr ymchwilio i ansawdd ac amrywiaeth deiet person ymhell ar ôl iddyn nhw farw.
Canfu’r tîm nad oedd gwahaniaeth mawr rhwng iechyd yr unigolion, a oedd yn fyw ar wahanol adegau cyn ac ar ôl y Goncwest. Roedd lefelau bwyta protein a charbohydrad yn debyg yn y grŵp a phrin oedd y dystiolaeth o gyflyrau esgyrn yn gysylltiedig â deiet gwael – fel y llechau a’r clefri poeth. Fodd bynnag, ar ôl cynnal dadansoddiadau eglur iawn o ddannedd, gwelwyd tystiolaeth o newidiadau tymor byr mewn iechyd a deiet yn gynnar mewn bywyd yn ystod y cyfnod trosiannol hwn.
Dadansoddwyd isotopau hefyd ar 60 o anifeiliaid y daethpwyd o hyd iddynt ar yr un safleoedd, i ddarganfod sut y cawsant eu codi. Canfu astudiaethau o esgyrn moch fod eu deiet wedi dod yn fwy cyson ac yn fwy cyfoethog mewn protein anifeiliaid ar ôl y Goncwest, gan awgrymu bod moch yn cael eu ffermio’n fwy dwys o dan reolaeth y Normaniaid. Roeddent yn debygol o fyw yn y dref ac yn bwyta gweddillion bwyd yn hytrach na chnydau neu lysiau naturiol.
Archwiliwyd darnau o grochenwaith drwy ddadansoddi gweddillion organig. Pan gaiff bwyd ei goginio mewn potiau cerameg, mae brasterau yn cael eu hamsugno i'r ddysgl, gan ganiatáu i ymchwilwyr eu tynnu oddi yno. Trwy ddadansoddi, gwelwyd bod potiau'n cael eu defnyddio i goginio llysiau fel bresych yn ogystal â chig fel cig oen, cig dafad neu afr ar draws y goncwest. Dywed ymchwilwyr fod y defnydd o frasterau o gynnyrch llaeth wedi lleihau ar ôl y Goncwest a bod porc neu gyw iâr wedi dod yn fwy poblogaidd.
Dywedodd Dr Richard Madgwick, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd: “Hyd y gwyddom, dyma’r tro cyntaf yn fyd-eang i osteoleg ddynol, dadansoddiad gweddillion organig a dadansoddiad isotopau o ddannedd ac esgyn cynyddrannol gael eu cyfuno mewn un astudiaeth.
“Dim ond drwy ddefnyddio’r dulliau arloesol ac amrywiol hyn yr ydym wedi gallu adrodd hanes effaith y Goncwest ar ddeiet ac iechyd pobl gyffredin, grŵp sydd heb gael llawer o sylw tan nawr."
Dywedodd Dr Ben Jervis, hefyd o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Mae 1066 yn ddyddiad sydd wedi’i ysgythru ar ein hymwybyddiaeth genedlaethol fel moment di-droi’n-ôl mewn hanes. Mae ein canfyddiadau’n dangos efallai fod angen ailfeddwl ein naratifau hanesyddol a myfyrio ar sut nad oedd y boblogaeth yn profi’r hyn oedd yn newid gwleidyddol yn y pendraw mor ddwys ag y gallem ni ei ddisgwyl. Hwn yw mantais go iawn defnyddio dulliau archaeolegol i ymchwilio i ddigwyddiad hanesyddol cyfarwydd; mae’n agor ffenestr at y profiadau beunyddiol hynny y gallwn ni gydymdeimlo â nhw, wrth i ni ddod i arfer â ‘normal newydd’ ein hunain.”
Cyhoeddir The dietary impact of the Norman Conquest: A multiproxy archaeological investigation of Oxford, UK, yn y cyfnodolyn PLOS One a bydd modd ei weld yma.
Ariannwyd yr astudiaeth gan y Sefydliad Archeolegol Brenhinol; Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain; y Gymdeithas Archeoleg Ganoloesol a Phrifysgol Caerdydd.
Mae'r flwyddyn hon yn nodi canmlwyddiant Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd.