Cyrsiau Mandarin ar-lein i Athrawon yn cyrraedd Caerdydd a thu hwnt
1 Gorffennaf 2020
Mae Sefydliad Confucius Caerdydd wedi bod yn peilota cyrsiau Mandarin ar-lein i athrawon ysgol gyda golwg ar eu lansio ar raddfa fwy o fis Medi ymlaen.
Yn dilyn poblogrwydd dosbarthiadau a gynhaliwyd mewn ysgolion lleol yn gynt eleni, roedd y Sefydliad am roi cyfle i athrawon barhau i wella eu sgiliau Mandarin yn ystod y cyfnod clo. Arweiniodd hyn at gynllunio cwrs Ôl-Ddechreuwyr, lle'r oedd cyfranogwyr o nifer o ysgolion ardal Caerdydd yn gallu adeiladu ar y sylfaen oedd eisoes ganddynt. Yn ogystal, lansiwyd dau gwrs ar-lein ychwanegol i ddechreuwyr.
Un o fyfyrwyr Dechreuwyr 1 yw Elen Barrar, Athrawes Saesneg ac Arweinydd Llythrennedd yn Ysgol Garth Olwg, Pontypridd. Dywedodd: " Roeddwn i wrth fy modd yn dysgu iaith gwbl wahanol i'r ieithoedd Ewropeaidd eraill roeddwn i wedi'u dysgu yn yr ysgol. Roedd yn braf cael bod yn fyfyriwr yn hytrach nag yn athro, ac rwyf i'n mwynhau profi arddull dysgu sy'n wahanol i fy arddull i wrth ddysgu Saesneg mewn ysgol uwchradd."
Nododd Elen hefyd fod nifer o fanteision i ddysgu ar-lein: "Mae gwersi Zoom yn gyfleus iawn. Mewn gwirionedd, rwy'n credu y byddwn i'n fwy tebygol o barhau gyda gwersi Zoom na gwers mewn ystafell ddosbarth ffisegol."
Cynhelir dosbarthiadau Mandarin i Athrawon Sefydliad Confucius Caerdydd dros chwe wythnos, a’u cyflwyno ar raglen meddalwedd fideogynadledda Zoom. Mae tiwtoriaid Confucius hefyd yn defnyddio Microsoft Teams i gyfathrebu gyda chyfranogwyr sy'n gallu cadw cysylltiad gyda'u cymunedau rhithiol y tu allan i'r 'dosbarth'. Mae defnyddio Teams hefyd yn eu galluogi i wylio recordiadau o'r dosbarthiadau, gan naill ai i ddal i fyny â gwersi a gollwyd neu adolygu'r hyn sydd wedi'i ddysgu, a chyrchu adnoddau ychwanegol i gynorthwyo eu hastudiaethau iaith.
Rhaglenni peilot yw’r cyrsiau rhithwir Mandarin i Athrawon, a bwriad y Sefydliad yw eu hagor yn ehangach y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd hyn yn caniatáu i nifer fwy o staff o ysgolion Cynradd ac Uwchradd naill ai ddechrau neu barhau i ddysgu Tsieinëeg Mandarin, heb orfod teithio.