Ewch i’r prif gynnwys

O’r cyfyngiadau symud i’r adferiad

16 Mehefin 2020

Woman opening shop

Mae Athro Entrepreneuriaeth ac Economeg o Brifysgol Caerdydd a Rheolwr Datblygu o'r Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) wedi bod yn trafod y camau sydd eu hangen i ailadeiladu llwyddiant busnesau bach yng Nghymru ar ôl pandemig COVID-19.

Yn y Sesiwn Hysbysu dros Frecwast ddiweddaraf yng nghyfres Ysgol Busnes Caerdydd, cyflwynodd yr Athro Andrew Henley drosolwg o'r dystiolaeth ddiweddaraf ar effaith yr argyfwng ar fusnesau bach ac ar yr hunangyflogedig yng Nghymru a'r DU yn ehangach.

Gan dynnu ar ymchwil ar hunangyflogaeth a busnesau bach, bu'r Athro Henley'n asesu'r llu o heriau i gyflogwyr, yn cynnwys gostyngiad sylweddol o ran trosiant a galw, lles gweithwyr, gweithleoedd gyda phellter cymdeithasol yn eu plith.

Bachodd ar y cyfle hefyd i beintio darlun ychydig yn fwy optimistaidd i fusnesau gyda goroesi ac adeiladu gwydnwch, gan edrych ar rai o'r cynlluniau cymorth brys i fusnesau sydd ar gael i wrthbwyso a goroesi'r problemau yn sgil mesurau cloi coronafeirws.

Cyn trosglwyddo i Rob Basini o'r FSB, pwysleisiodd yr Athro Henley rai ffyrdd y gallai BBaChau ailymddangos yn gryfach fyth. Anogodd sefydliadau i wneud y canlynol:

  • Buddsoddi mewn arloesi ac ailgynllunio'r model busnes
  • Cadw ac ailhyfforddi eich pobl gan gynnwys rheolwyr ac arweinwyr a buddsoddi yn eu lles
  • Cynnal cefnogaeth ariannol tra bo cyfraddau llog yn isel
  • Sicrhau gwydnwch y gadwyn gyflenwi a galw'r farchnad gyda chymorth cwmnïau angori.

Gorffennodd drwy ddweud: “Mae'n bwysig dweud bod angen amgylchedd gwario cyhoeddus a macroeconomaidd cefnogol ar gyfer hyn i gyd...”

“Rhaid i ni beidio â dychwelyd at y math o fesurau llymder a welwyd ar ôl yr argyfwng ariannol diwethaf, oherwydd dros y cyfnod canolig, hynny yw ymhen dwy neu dair blynedd, bydd yn wael iawn. Yn enwedig os bydd gennym lywodraeth sy'n anfodlon parhau i gyllido hyn drwy bolisi ariannol ehangol ac yn lle hynny sy'n cynyddu trethi neu'n dod i lawr ymhellach ar wariant cyhoeddus.”

Yr Athro Andrew Henley Professor of Entrepreneurship and Economics, Director of Research Engagement and Impact

Mr Basini picked up where Professor Henley finished by providing an overview of work recently published by the FSB.

He outlined some of the motivations behind their Reopening Wales report, which highlights key areas and issues that need to be addressed for small businesses to reopen effectively and play their part in recovery.

“Rydym ni'n credu y dylid cael grant neu gronfa pellhau cymdeithasol i helpu rhai busnesau sydd angen gwneud addasiadau. Mae gosodiad ffisegol rhai busnesau'n gweithio'n dda ar gyfer pellhau cymdeithasol. I eraill, gall pellhau cymdeithasol fod yn broblem fawr.”

Rob Basini heolwr Datblygu o'r Ffederasiwn Busnesau Bach

Mae'r adroddiad hefyd yn galw am y canlynol:

  • Mwy o gymorth sector-benodol, yn enwedig ar gyfer adwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth.
  • Ailosod ffocws cyllid a ddyrannwyd i ganol trefi.
  • Darpariaeth seiberddiogelwch i sefydliadau sy'n dechrau gweithredu ar-lein.
  • Arweiniad clir ar adnoddau dynol, arweinyddiaeth a rheoli gan gynnwys arferion cyflogaeth, ailgyflwyno, ac iechyd, diogelwch a llesiant.
  • Delio gyda thaliadau hwyr.
  • Eglurder ar y gronfa rhannu ffyniant.

I gloi, cyfeiriodd Mr Basini hefyd at adroddiad Ar Agor Am Fusnes: Ail-bwrpasu Mannau Cyhoeddus Ar Gyfer Adferiad Economaidd yr FSB. Fe’i cyhoeddwyd yn gynt y mis hwn ac mae'n ystyried rhoi perchnogaeth a rheolaeth i gymunedau lleol dros adfer a chefnogi eu BBaChau yn ogystal â'r elfennau llywodraethu a rheoleiddio sydd angen sylw er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon.

Yn dilyn eu cyflwyniadau, atebodd yr Athro Henley a Mr Basini gwestiynau ar wydnwch y gadwyn gyflenwi, cydgyfeirio a dargyfeirio, hyfforddiant, rhanbarthedd, iechyd a'r economi cyn dod â'r sesiwn i ben.

Rhwydwaith yw cyfres Sesiynau Hysbysu Brecwast Ysgol Busnes Caerdydd sy'n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil a'r datblygiadau allweddol diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Yn dilyn y cyfyngiadau symud a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i bandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol wedi symud y gyfres ar-lein.

Os nad oeddech chi'n gallu bod yn bresennol, gallwch wylio recordiad o'r digwyddiad.

Yn y sesiwn nesaf, 'Sut ydym ni'n caffael llesiant?' bydd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn ymuno â'r Athro Kevin Morgan a Dr Jane Lynch i drafod argymhellion y Comisiynydd o Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020.

Cofrestrwch eich presenoldeb ar gyfer 'Sut ydym ni'n caffael llesiant?' i glywed y canfyddiadau allweddol yn yr adroddiad a holi cwestiynau i'r siaradwyr.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cynnig cymorth wedi’i dargedu a chyfleoedd datblygu trwy ein gweithgareddau addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.