Astudiaeth newydd yn dangos y bu’r eryr aur eiconig yn gyffredin yng Nghymru
30 Mehefin 2020
Mae astudiaeth newydd yn dangos fod eryrod y môr ac eryrod aur wedi bod yn gyffredin yng Nghymru yn y gorffennol.
Edrychodd ymchwilwyr ar eu dosbarthiad yn y gorffennol fel rhan o’u cais i ddod â’r rhywogaeth, a ddiflannodd o’r ardal ddechrau’r 1800au, yn ôl i gefn gwlad Cymru.
Yn ystod eu hymchwil, daethant ar draws gwybodaeth ddiddorol drwy edrych ar gofnodion archeolegol, ffosil ac arsylwadol - ac enwau lleoedd Cymraeg hyd yn oed.
Mae’r astudiaeth hefyd yn cynnwys y dystiolaeth gynharaf o’r eryr aur yng Nghymru yn ystod y cyfnod Devensian - y cyfnod rhewlifol olaf ym Mhrydain - tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl.
Dywedodd Sophie-lee Williams, 28, sy’n rheoli’r Prosiect Ailgyflwyno Eryrod yng Nghymru yn rhan o’i doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd: “Un o heriau cyntaf ein prosiect oedd casglu tystiolaeth o ddosbarthiad y ddwy rywogaeth o eryr yn y gorffennol er mwyn profi eu bod nhw’n gynhenid i Gymru ar un adeg.
“Ceir cyfoeth o ddata o rannau eraill o Brydain - ond yng Nghymru does dim cofnod hanesyddol, felly roedd yn rhaid i ni fod yn greadigol.
“Mae ein hymchwil wedi dangos, heb amheuaeth, y bu’r ddwy rywogaeth yn gyffredin ar draws Cymru cyn y 18fed ganrif. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ysgogi gobaith o ran dychwelyd y rhywogaethau godidog hyn i Gymru yn y dyfodol agos.”
Mae’r ymchwilwyr wedi casglu 151 o gofnodion hanesyddol o eryrod ym mhob sir yng Nghymru - 81 cofnod o’r eryr aur a 70 cofnod o’r eryr cynffonwen.
“Roedd trwch dosbarthiad yr eryr aur cyn eu diflaniad o Gymru yng ngogledd Cymru, ac yn benodol ar ucheldir Eryri,” meddai Sophie-lee. Cafodd ei hoffter o fywyd gwyllt ei ysgogi gan ei mam-gu, yn ystod ei magwraeth yn nhref Aberdâr, yng nghymoedd de Cymru.
“Roedd eryrod y môr i’w gweld yn fwy cyffredin yn nhiroedd isel de Cymru, gan gynnwys ardaloedd arfordirol fel Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, a Chenffyg, Pen-y-bont ar Ogwr a Margam.”
Ceir cofnodion o eryr y môr yn ardal Cenffyg dros gyfnod o 50 mlynedd rhwng 1810 ac 1860, gydag un cofnod mor hwyr â 1906. Roedd eryrod aur i’w gweld yn aml yn Sir Ddinbych, Eryri, ar draws Gwynedd a chanolbarth Cymru.
“Edrychom hefyd ar gofnodion enwau lleoedd a oedd yn cynnwys ‘eryr’ - a darganfuwyd fod y cofnodion hyn yn bodoli ar draws Cymru, ond bod mwy ohonynt yn y gogledd, y Canolbarth ac mor bell i’r de â Sir Benfro,” meddai Sophie-lee.
Roedd y cofnodion cynharaf ar ffurf gweddillion wedi’u ffosileiddio mewn arddangosfeydd archeolegol o Gymru.
“Mae gennym weddillion ffosil yr eryr aur ac eryr y môr wedi’u cofnodi yn ogof Cathole, Gŵyr, sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnodau Devensian tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl, a gweddillion eryr y môr yn ogof Porth Eynon, Gŵyr, sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig, 6,000-9,000 o flynyddoedd yn ôl,” dywedodd.
“Mae’n rhyfeddol i ddweud y gwir. Daethpwyd o hyd i ganfyddiadau archeolegol yn dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghaerllion, Gwent a Segontium, ger Caernarfon.
Mae’r cofnodion bridio olaf ar gyfer yr eryr aur yn dod o Barc Cenedlaethol Eryri, rhwng yr 1820au a’r 1850au, a’r cofnodion olaf ar gyfer yr eryr cynffonwen yn Nhwyni Cynffig ar arfordir Abertawe yn 1828.
Daeth yr ymchwilwyr o hyd i dystiolaeth hanesyddol o bwys o’r gwrthdaro rhwng eryrod a ffermwyr. Arweiniodd hyn at erlid a difodiant rhanbarthol yr eryrod bridio yng Nghymru.
Mae cofnodion hanesyddol o erlid yn rhoi cofnodion manwl o eryrod yn cael eu saethu gan dirfeddianwyr am eu bod yn “bwydo ar gyrff defaid” neu’r gred fod eryrod yn “lladd defaid ac ŵyn”.
Cafodd y gwrthdaro hwn rhwng pobl a bywyd gwyllt ei gofnodi am y tro cyntaf yng Nghymru yn ystod yr 17eg ganrif ac fe barhaodd drwy gydol y 19eg ganrif, a chafwyd gwared ar yr holl eryrod bridio ac ifanc o ymhellach i’r gogledd ym Mhrydain.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae Sophie-lee wedi bod yn cynnal ymchwil wyddonol ynghylch pa mor ddichonol fyddai adfer eryrod yng Nghymru.
Mae’r meini prawf ar gyfer ailgyflwyno rhywogaethau yn y DU yn cael eu harwain gan Undeb Rhyngwladol ar gyfer Gwarchod Natur (IUCN). Un o’r elfennau allweddol yw bod y lleoliad ailgyflwyno yn gorfod bod o fewn ardal flaenorol y rhywogaethau.
“Mae ein canlyniadau yn llenwi bylchau gwybodaeth ynghylch yr ardaloedd yr oedd y naill rywogaeth yn arfer trigo yn hanesyddol er mwyn adfer un neu’r ddwy rywogaeth yng Nghymru yn y dyfodol,” meddai Sophie-lee.
Cyhoeddwyd yr ymchwil yng nghyfnodolyn Conservation Science and Practice yr wythnos hon.
Dywedodd Sophie-lee bod rhagor o waith dadansoddi’n cael ei gynnal ar hyn o bryd i asesu a allai tirwedd fodern Cymru gynnal yr eryr aur ac eryr y môr, yn ogystal ag asesu a fyddai ailgyflwyno’r naill rywogaeth o eryr, neu’r ddwy ohonynt, yng Nghymru yn bosibilrwydd realistig.