Cymrodoriaeth i aelod o'r Bwrdd Rheoli
26 Mehefin 2020
Mae Athro Dadansoddiad Sefydliadol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi'i ethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru wrth iddi groesawu 45 o academyddion, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol newydd i'w Chymrodoriaeth.
Mae'r Athro Jonathan Morris, Deon Cyswllt ar gyfer Ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn ymuno ag academyddion o nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru a'r DU yn ogystal ag unigolion sy'n chwarae rhan sylweddol ym mywyd cyhoeddus Cymru.
Dros yn agos i ddeugain mlynedd yn y byd academaidd yn Ysgol Busnes Caerdydd, mae'r Athro Morris wedi arloesi gydag ymchwil ar effaith egin-fuddsoddi Japaneaidd a'i oblygiadau ar gyfer gwaith ac, yn fwy diweddar, ar ffurfiau sefydliadol a gwaith rheolaethol mewn cyd-destunau rhyngwladol, yn enwedig Dwyrain Asia.
Yn ddiweddar mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar fodelau cyflogaeth sy'n ymddangos yn y diwydiannau creadigol, yn cynnwys stiwdios teledu a ffilm.
Dywedodd yr Athro Morris: “Bu'n hyfryd derbyn negeseuon o longyfarchiadau gan gydweithwyr ar y Gymrodoriaeth, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo yma yng Nghymru lle mae'n hawdd teimlo diffyg cyswllt â'r byd...”
Yn ogystal â record ragorol o gyhoeddi, yn ei rôl fel Deon Ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd, mae'r Athro Morris wedi goruchwylio nifer o ddyfarniadau cyngor ymchwil sylweddol a meithrin y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr drwy gymrodoriaethau ac astudiaethau doethurol.
Meddai’r Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae’r Ysgol Busnes yn cynnig ei llongyfarchiadau cynhesaf i Jonathan ar y gydnabyddiaeth deilwng o’i gyfraniad at ei ddisgyblaeth ac addysg uwch yng Nghymru...”
Cydnabyddiaeth gyhoeddus i ragoriaeth
Seilir etholiad i'r Gymrodoriaeth ar bleidlais ymhlith y Cymrodyr presennol. Mae'n gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, gyda chryn gystadleuaeth, ac fe’i dyfernir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau pob enwebai yn eu maes/meysydd perthnasol.
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas: “Rwyf i wrth fy modd yn gweld ethol Cymrodyr newydd, sydd unwaith eto'n dangos y talentau sy'n gysylltiedig â Chymru, fydd yn atgyfnerthu gwaith y Gymdeithas, gan gydnabod rhagoriaeth, hyrwyddo ymchwil a chyflwyno ein harbenigedd i wasanaethu’r genedl.”
Mae'r etholiad hwn yn cryfhau’r Gymrodoriaeth nid yn unig drwy ychwanegu 45 o Gymrodyr newydd, gan gynnwys dau Gymrawd er Anrhydedd, ond hefyd drwy gyfoethogi ei chronfa o arbenigedd.
Mae gan y Gymdeithas 563 o Gymrodyr bellach, sy’n unigolion nodedig o bob maes dysg ac yn ffigurau blaenllaw yn eu proffesiwn neu ddisgyblaeth academaidd.
Darllenwch y rhestr lawn o Gymrodyr newydd, eu sefydliadau a'u harbenigedd pwnc.