Gwaith cloddio archaeolegol o bellter cymdeithasol yn dod â chymuned ynghyd
30 Mehefin 2020
Gwahoddir pobl sy'n byw yn agos at un o henebion hynaf Caerdydd er mwyn helpu i ddod o hyd i ragor o gipolygon ar archaeoleg a hanes cyfoethog yr ardal.
Mae Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER) wedi'i leoli o gwmpas bryngaer bwysig ac anhysbys o’r Oes Haearn. Mae'n brosiect cydweithredol rhwng sefydliad datblygu cymunedol ACE - Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Prifysgol Caerdydd a thrigolion ac ysgolion lleol.
Mae CAER yn gofyn i bobl ym maestrefi Caerau a Threlái yng ngorllewin Caerdydd sydd â gerddi i gynnal eu gwaith cloddio archaeolegol eu hunain yn rhan o Gloddfa Fawr CAER. Bydd cyfranogwyr yn cloddio pwll profi bach un metr sgwâr, gan gofnodi beth maent yn dod o hyd iddo. Bydd y canlyniadau yn cael eu rhannu ag archaeolegwyr Prifysgol Caerdydd a'r gymuned ehangach fel rhan o brosiect ymchwil cydweithredol, a hyn i gyd gyda mesurau pellter cymdeithasol a diogelwch ar waith.
Mae astudiaethau blaenorol wedi canolbwyntio ar y fryngaer yng Nghaerau, sef pentref canoloesol yng ngogledd Trelái a fila Rufeinig ym Mharc Trelái, ond mae'n syndod nad oes llawer o wybodaeth am y lleoedd rhyngddynt. Bydd y wybodaeth o’r pyllau profi hyn yn helpu i olrhain sut mae’r ardal wedi esblygu ers Oes y Cerrig i’r oes fodern.
Dywedodd cyd-gyfarwyddwr Prosiect Treftadaeth CAER, Dr Oliver Davis, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Er nad ydym wedi gallu cynnal digwyddiad cloddio cymunedol ar raddfa fawr roeddem wedi'i gynllunio ym Mharc Trelái oherwydd Covid-19 a'r cyfnod clo, mae cymaint o wybodaeth am y gorffennol y gellir ei darganfod gyda'r gyfres hon o byllau profi. Nid ydym wedi ymchwilio i'r ardal ehangach yn y ffordd hon o'r blaen. Mae'n bosibl iawn bod tystiolaeth archaeolegol newydd bwysig – o darddiadau cynharaf y gymuned hyd at ei drigolion diweddaraf - yn aros i gael ei darganfod gan bobl leol a gall fod yn llythrennol ar garreg eu drysau eu hunain!"
Gellir cymryd rhan yn rhad ac am ddim – bydd pobl leol sy'n cofrestru yn cael pecyn sy'n cynnwys yr holl ganllawiau a chyfarpar sylfaenol y bydd eu hangen arnynt i gloddio a chofnodi eu pwll profi. Hefyd, mae modd lawrlwytho pecyn digidol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb ond nad yw'n byw yng Nghaerau na Threlái.
Gall pobl heb erddi hefyd gyfrannu drwy gymryd rhan yn Archaeoleg Cwpwrdd CAER – gan chwilio yn eu cartrefi am eitemau a allai ddweud rhywbeth am y gorffennol.
Bydd y canfyddiadau o Gloddfa Fawr CAER a Chwpwrdd Archaeoleg yn cyfrannu tuag at arddangosfa ddigidol o ganfyddiadau a gyd-gynhyrchwyd gyda disgyblion ysgol leol a gweithwyr treftadaeth o Amgueddfa Caerdydd, gan adeiladu sgiliau a chynnig cyfleoedd addysgiadol i bobl ifanc lleol.
Meddai Charlotte McCarthy o ACE: “Rydym wir yn gobeithio bydd y prosiect hwn yn dod ag aelodau ein cymuned ynghyd ar adeg fel hon. Mae hefyd yn gyfle gwych i ddod wyneb yn wyneb â’n hanes a’n treftadaeth yn yr ardal yr ydym yn byw ynddi.”
Dywedodd Dr Martin Hulland, pennaeth yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd: “Mae'r Gloddfa Fawr yn ategu ein partneriaeth hirsefydlog ymhellach gyda Threftadaeth Caer, ACE a Phrifysgol Caerdydd, sydd dros yr wyth mlynedd ddiwethaf wedi cynnig llu o gyfleoedd bywyd a phrofiadau newydd i'n myfyrwyr gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer ysgoloriaethau Prifysgol.”
Cynhelir y ddau brosiect yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 6 Gorffennaf. I gymryd rhan, cofrestrwch ar wefan CAER, anfonwch neges at ei dudalen Facebook neu ffoniwch Charlotte neu Sulafa ar 02920 003132
Mae'r digwyddiad hwn yn un o gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir eleni i nodi canmlwyddiant Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd.