Wythnos Gyrfa a Model Rôl Rhithwir Grangetown
25 Mehefin 2020
Mae'r wythnos Gyrfa a Model Rôl bellach yn ei bumed flwyddyn ac mae'n un o'r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr Porth Cymunedol sy'n cynnig cyngor gyrfa a chwrs i drigolion Grangetown o bob oed.
Eleni, mae'r holl ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar-lein oherwydd COVID-19, ond mae gennym ni amserlen lawn o hyd gyda chyfweliadau a mewnwelediadau anhygoel.
Ymunwch â ni wythnos yn dechrau 29 Mehefin a gadewch i Brifysgol Caerdydd eich helpu chi ar eich taith yrfa.
Beth i'w Ddisgwyl
Bob dydd, bydd preswylwyr yn cael cyfle i fynychu amrywiaeth o sesiynau, yn amrywio o wahanol feysydd astudio neu gyfleoedd cyflogaeth yn y Brifysgol. Gall mynychwyr ddisgwyl sgyrsiau gan ddarlithwyr a myfyrwyr cyfredol ar gyrsiau, a gallant fynychu sesiynau Holi ac Ateb i ofyn cwestiynau a darganfod sut i wneud cais.
Bydd gwirfoddolwyr Porth Cymunedol hefyd yn cael sesiynau awr o hyd bob dydd yn cyflwyno bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd, cymdeithasau, clybiau a gwirfoddoli yn y Brifysgol, ynghyd â bywyd fel myfyriwr yng Nghaerdydd. Yn ystod yr wythnos, bydd preswylwyr hefyd yn cael cyfle i gofrestru i fynd i Ddiwrnod Agored Israddedig y Brifysgol a fydd yn digwydd ar-lein!
Mae Porth Cymunedol wedi ceisio annog aelodau'r gymuned i fanteisio ar yr amrywiaeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd trwy weithio'n agos gyda staff o'r timau Adnoddau Dynol a Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd sy'n cynnig gwiriadau CV a chyngor gyrfaoedd.
Bydd gwybodaeth am gymryd rhan yn y gwasanaethau Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, ynghyd â'r tîm Menter a Chychwyn Busnes ar gael trwy gydol yr wythnos.
Mae'r wythnos Gyrfa a Modelau Rôl wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda nifer o drigolion lleol Grangetown yn ennill lleoedd ar gyrsiau Israddedig ac Ôl-raddedig yn y brifysgol - llwyddiant mae Porth Cymunedol yn gobeithio adeiladu arno yn y dyfodol.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn ein digwyddiad rhithwir! Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau rheolaidd o'r digwyddiad trwy’r wythnos!
I gofrestru ar gyfer digwyddiad, cliciwch yma
Gellir lawrlwytho amserlen yr wythnos yma: Amserlen Digwyddiadau Wythnos Gyrfaoedd a Model Rôl