Yn ôl adroddiad, mae effaith economaidd Covid-19 yn gwaethygu'r anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes yng Nghymru
25 Mehefin 2020
Mae’r rhai ar y cyflogau isaf yng Nghymru ddeg gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu heffeithio gan drefniadau cau o ganlyniad i Covid-19 na’r rhai ar y cyflogau uchaf, dengys ymchwil.
Dywed y papur briffio gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd fod bron i hanner y rhai sy’n dod â’r incwm lleiaf adref yn gweithio mewn swyddi a orfodwyd i stopio oherwydd y cyfnod clo.
Yn ogystal â’r rhai ar gyflogau isel, mae'r astudiaeth yn dangos bod yr aflonyddwch economaidd a achosir gan y Coronafeirws hefyd yn cael ei deimlo arwaf gan weithwyr iau, menywod a'r rhai o gefndiroedd BAME.
Mae ymchwilwyr yn amcangyfrif bod tua 228,000 o weithwyr yng Nghymru wedi'u cyflogi mewn sectorau wedi'u cau o ganlyniad i fesurau cadw pellter cymdeithasol, sef 16% o'r boblogaeth oed gwaith.
Roedd gweithwyr o dan 25 oed bron i deirgwaith yn fwy tebygol o fod yn gweithio yn y sectorau hyn. Mae'r effaith hefyd yn amrywio yn ôl rhyw, gyda 18% o weithwyr benywaidd yn gweithio mewn sectorau sydd wedi cau i lawr o gymharu â 14% o weithwyr gwrywaidd.
Mae'r astudiaeth yn dangos bod hyn wedi cael effaith arbennig o galed ar fenywod iau, gyda 39% o'r holl weithwyr benywaidd o dan 25 oed yn gweithio mewn sectorau sydd wedi cau.
Roedd dros ddwy ran o bump (44%) o weithwyr o ethnigrwydd Bangladeshaidd yn cael eu cyflogi cyn yr argyfwng mewn sectorau sydd bellach wedi cau. Roedd hyn bron i dair gwaith cyfran y rhai o ethnigrwydd Gwyn Prydain (16%) ac o gymharu â 24% o ethnigrwydd Du Caribïaidd ac 17% o ethnigrwydd Pacistanaidd.
Dywedodd Jesús Rodríguez, o raglen Dadansoddi Cyllid Cymru: “Mae Covid-19 wedi cael effaith ddifrifol ar economi Cymru, a gwelir tystiolaeth o'r nifer enfawr o weithwyr sy'n cael eu cefnogi trwy'r cynlluniau cymorthdal incwm a ffyrlo, ynghyd â chynnydd digynsail yn y rhai sy’n hawlio Credyd Cynhwysol."
Mae'r adroddiad hefyd yn dadansoddi'r gweithwyr yng Nghymru sydd wedi'u dynodi'n weithwyr allweddol, sy'n gyfran lawer uwch o weithlu Cymru ar 31%, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 26%. Yng Nghymru, mae 14% o'r boblogaeth o oed gwaith yn cael eu cyflogi fel gweithwyr allweddol ym maes iechyd, dwbl y nifer yn Llundain (7%).
Mae menywod yng Nghymru ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu dynodi'n weithwyr allweddol na dynion, yn ôl y canfyddiadau.
Mae'r ymchwil yn dangos bod gweithwyr o gefndiroedd BAME ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol na gweithwyr o ethnigrwydd Gwyn Prydain. Mae'r dadansoddiad hwn yn dilyn tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg bod unigolion BAME yn profi effeithiau iechyd mwy difrifol gan Covid-19.
Wrth sôn am ganfyddiadau'r adroddiad, dywedodd Dr Alison Parken, Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor Cymru'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC): “Mae'r ymchwil hon yn dangos graddau effeithiau Covid-19 ar gyflogaeth ac, yn gyffredinol, y bydd y rhai sydd eisoes dan anfantais yn ysgwyddo’r rhan helaeth o golledion swyddi, ansicrwydd ac incwm is. Mae'n hanfodol bwysig bod data o'r fath yn ganolog i gynllunio a datblygu adferiad economaidd sy'n mynd i'r afael yn rhagweithiol â'r anghydraddoldebau cynyddol hyn."
Dywedodd Leila Usmani o Race Alliance Wales: “Mae'r adroddiad hwn yn amlygu unwaith eto anghydraddoldebau hiliol systemig, hirdymor yn y wlad hon. Wedi ei heffeithio'n economaidd gan ddiffyg incwm neu ddod i fwy o gysylltiad â Covid-19, mae'r effaith anghymesur hwn yn annerbyniol. Mae cymdeithas yn gyfannol, a byddwn yn parhau i alw am newidiadau a fydd yn ein harwain at gael gwared ar hiliaeth strwythurol ym mhob sector, sydd wedi cyfrannu at y ffigurau syfrdanol hyn, a'r hanesion trist rydym yn eu clywed gan bobl y tu ôl i’r rhifau.”
Dywedodd Catherine Fookes, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru: “Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn sy’n taflu goleuni ar yr effaith anghymesur y mae Covid-19 eisoes wedi’i chael ar gyflogaeth menywod. Mae’n dangos bod menywod yn fwy tebygol o fod yn weithwyr allweddol ac eto maent wedi bod yn fwy agored i golli cyflogaeth ac enillion yn ystod yr argyfwng Covid -19 na dynion.
“Rydym yn croesawu argymhelliad yr adroddiad bod yn rhaid i ymateb gwaith arbed dargedu menywod yn benodol. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn ystyried hyn. Credwn y dylai'r gefnogaeth hon gynnwys cynnydd yn y cyflog byw a darparu Incwm Sylfaenol Cyffredinol.”