Adnoddau newydd er mwyn helpu athrawon i gefnogi myfyrwyr yn ystod cyfnod Covid-19 a thu hwnt
25 Mehefin 2020
Dywedodd arbenigwr o Brifysgol Caerdydd ym maes addysg y bydd angen i les pobl ifanc fod yn ffocws allweddol ar gyfer athrawon yn dilyn Covid-19.
Mae ymchwil yr Athro EJ Renold yn canolbwyntio ar sut mae plant yn dysgu am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys teimladau ac emosiynau, cyfeillgarwch a chydberthnasau, ynghyd â rhywedd a rhywioldeb. Mae wedi llywio gweledigaeth y cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) newydd yng Nghymru, rhan statudol o gwricwlwm newydd Cymru o 2022 ymlaen.
Heddiw, mae'r Athro Renold yn lansio CRUSH, adnodd dysgu proffesiynol i athrawon er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer y cwricwlwm ACRh newydd. Yn ogystal, ers cyfnod clo Covid-19, mae'r Athro Renold wedi dyfeisio gweithgareddau gweithdy creadigol ar gyfer athrawon sydd wedi'u hanelu'n benodol at fynd i'r afael ag effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar ddisgyblion.
Dywedodd yr Athro Renold, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae’r cyfnod clo wedi arwain at effeithiau enfawr ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Mae'n hanfodol bod athrawon yn cael eu cefnogi ag adnoddau a thechnegau sy'n eu galluogi i wrando ar bobl ifanc ynglŷn â sut maent yn teimlo a pha gymorth allai fod ei angen arnynt, wth iddynt lywio eu ffordd drwy'r cyfnod anodd iawn hwn, yn ogystal â'r blynyddoedd sydd i ddod."
CRUSH: Mae Transforming RSE yn adnodd i ymarferwyr sy'n seiliedig ar AGENDA: cefnogi plant a phobl ifanc i wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfri. Mae'r adnodd yn defnyddio canfyddiadau rhaglen dysgu proffesiynol arloesol ac mae'n darparu enghreifftiau o arferion gorau i athrawon, gan gynnwys archwiliad creadigol a ddyluniwyd i gynnig gwahanol ffyrdd o wrando ar bobl ifanc am yr hyn sy'n bwysig iddynt, rhestr o dermau a gwybodaeth gefndirol allweddol er mwyn rhoi cyd-destun i'r newidiadau a wnaed i ddarpariaeth ACRh Cymru.
Mae ffilm i gyd-fynd â CRUSH, sef Making Space: Transforming RSE in Wales sy'n dangos sut mae 'archwiliad creadigol' yn edrych mewn gwirionedd.
Mae AGENDA during Covid yn gyfres ar wahân i'r gweithgareddau creadigol y gellir eu defnyddio fel pwynt dechrau ar gyfer athrawon a phobl ifanc gan drafod materion a theimladau sydd wedi dod i'r amlwg ers y cyfnod clo. Mae'r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) eisoes wedi argymell AGENDA fel adnodd i gefnogi anghenion cymdeithasol ac emosiynol myfyrwyr yn ystod Covid-19.
Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: “Mae plant a phobl ifanc yn cadw dweud wrtha i eu bod am gael Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb [ACRh] sydd o ansawdd uchel ac sy'n wybodus. Mae adnodd CRUSH yr Athro Renold yn cefnogi athrawon i ddatblygu ACRh mewn ffordd berthnasol a chreadigol a arweinir gan ymchwil ac sy'n canolbwyntio ar blant.
“Mae CRUSH yn cefnogi gweithwyr proffesiynol i alluogi plant a phobl ifanc i ddeall emosiynau, cyfeillgarwch, cydberthnasau a rhywioldeb. Mae angen i blant gael y cyfleoedd hyn er mwyn profi eu hawliau dynol. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gael gwybodaeth gywir, i gael eu diogelu a'u hamddiffyn rhag niwed, i beidio â chael eu gwahaniaethu, i addysg holistaidd, ac i gyfranogiad gweithredol mewn trafodaethau sy'n effeithio ar eu bywydau.
"Rwyf hefyd yn falch bod adnodd addysgu ar wahân, AGENDA during Covid, wedi cael ei ddatblygu ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn iddynt drafod sut mae pandemig Covid-19 wedi effeithio arnynt. Fel rhan o fy arolwg Coronafeirws a Fi clywais gan bron i 24,000 o blant a phobl ifanc a thra bod rhai wedi ffynnu yn ystod y cyfnod clo, mae emosiynau ac iechyd meddwl rhai wedi dioddef o ganlyniad i fod wedi'u hynysu o'u teuluoedd a'u ffrindiau."
Dywedodd Ros McNeil, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb Addysg Cenedlaethol: “Mae'n rhaid i gefnogi iechyd meddwl a lles disgyblion fod yn flaenoriaeth ar gyfer pob ysgol bellach ac yn hir ar ôl i'r cyfnod clo ddod i ben. Mae'r adnoddau AGENDA during Covid-19 yn amserol ac yn bwysig er mwyn helpu i ysgolion ganolbwyntio ar lais disgyblion ac ymateb i'r hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei deimlo a'i brofi yn ystod y cyfnod hwn. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda'r Athro Renold i gyflwyno hyfforddiant i'n haelodau ar AGENDA a chefnogi arferion gorau o ran ACRh."
Dywedodd Kelly Harris o Brook Cymru: “Mae'n wych gweld sut mae'r adnodd pwysig, AGENDA, wedi datblygu a sut mae wedi creu gwaddol newydd yn adnodd newydd a chyffrous CRUSH. Mae CRUSH yn adnodd amserol a phwysig ar gyfer gweithwyr proffesiynol wrth iddynt ddechrau mynd i'r afael â thirwedd gyfnewidiol ACRh yng Nghymru wrth iddo ddarparu gwybodaeth, canllawiau a gweithgareddau er mwyn helpu i gefnogi datblygiad proffesiynol, ond nid yw byth yn colli lleisiau plant na phobl ifanc."
Mae’r Athro Renold am ddiolch i Gonsortia Canolbarth y De, Prifysgol Caerdydd a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol am ran-ariannu adnodd CRUSH.