Ewch i’r prif gynnwys

Sut mae pobl ag anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) yn ymdopi yn ystod pandemig Covid-19?

24 Mehefin 2020

Man using his phone in lockdown stock image

Mae darlithydd o Brifysgol Caerdydd yn arwain prosiect i archwilio'r effaith y mae pandemig Covid-19 yn ei chael ar bobl sydd â thueddiadau obsesiynol-cymhellol neu hanes o OCD.

Ac mae'n waith hynod bersonol i Dr Athanasios Hassoulas, cyfarwyddwr MSc Seiciatreg, gan fod ganddo OCD a chan iddo dreulio dechrau ei yrfa yn ymchwilio i'r cyflwr.

Mae'n poeni y gall yr argyfwng iechyd byd-eang presennol gael effaith hynod negyddol ar y rheiny sydd â'r cyflwr a'r gofal a'r gefnogaeth y maent yn eu derbyn.

Term cyffredinol yw OCD - anhwylder obsesiynol cymhellol - i ddisgrifio sawl math gwahanol o anhwylder lle mae'r person yn teimlo bod angen iddo/iddi gyflawni trefnau penodol dro ar ôl tro (cymhellol) a/neu'n cael meddyliau penodol ailadroddus (obsesiynol).

Mae gan oddeutu 1-3% o boblogaeth y DU OCD, a chanran debyg yn fyd-eang.

"Gall hyn fod yn gyfnod heriol iawn i lawer o bobl sydd ag OCD neu dueddiadau obsesiynol-cymhellol," dywedodd Dr Hassoulas, o'r Ysgol Meddygaeth.

"Gall OCD fod yn anhwylder gwanychol a gofidus hyd yn oed mewn amseroedd normal. Fodd bynnag, yn ystod pandemig gall lefel y gorbryder a'r poen meddwl lethu rhywun.

"I lawer o bobl, beth sy'n tueddu i yrru'r OCD yw meddyliau annifyr ailadroddus, megis euogrwydd a phryder y gall yr hyn y maent yn ei wneud achosi niwed i bobl eraill, neu orbryder am halogiad. Maent yn gwybod nad yw'r meddyliau'n rhesymegol, ond yr unig ffordd i anghofio amdanynt yw gweithredu gorfodaeth.

"Yn ystod pandemig, hwyrach y bydd y meddyliau hyn yn waeth, ac ochr yn ochr â'r negeseuon dyddiol am risgiau gall hyn arwain at y gorfodaethau, megis golchi dwylo neu ddiheintio ardaloedd penodol, yn mynd y tu hwnt i reolaeth.

Rydym oll yn gwybod am effeithiau corfforol y coronafeirws - mae hefyd yn hanfodol ein bod yn gwybod am yr effeithiau seicolegol hefyd, yn benodol i grwpiau mwy bregus.

Dr Athanasios Hassoulas Non Clinical Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Cafodd Dr Hassoulas ddiagnosis o OCD pan oedd yn ei arddegau, ar ôl i'w rieni sylweddoli bod rhywbeth o'i le.

"Ro'n i tua 15 oed a dwi'n cofio cael meddyliau ymwthiol dros ben," dywedodd.

"Yn lle gweithredu gorfodaeth corfforol, ro'n i'n treulio llawer o amser yn ceisio niwtralu un meddwl â meddwl arall. Roedd rhaid i mi ganolbwyntio'n galed iawn ar y meddyliau positif hyn, a dim ond wedyn oeddwn i'n teimlo'n well.

"Ro'n i'n lwcus iawn oherwydd, diolch i fy nheulu, cefais y cymorth oedd ei angen. Dwi'n poeni nad yw pobl eraill mor lwcus â fi. Yn bennaf, roeddwn yn awyddus i ymchwilio i OCD i ddeall sut mae fy ymennydd yn gweithio, ond dwi'n awyddus i ddysgu beth sy'n gyrru llawer o bobl i deimlo fel hyn.

"Nid yw'r OCD wedi mynd, ond mae wedi newid. Dwi'n tueddu i'w ddisgrifio fel rhywbeth slei - mae'n newid dros y blynyddoedd ac mae'n rhaid i mi geisio bod gam ar y blaen bob tro."

Mae triniaeth a chefnogaeth i bobl ag OCD yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr anhwylder, a gall amrywio o therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT) sy'n edrych ar beth sy'n gyrru'r meddyliau neu'r ymddygiad mewn achosion mwy ysgafn, i driniaethau â chyffuriau i bobl sy'n cael eu heffeithio'n andwyol.

Mae Dr Hassoulas yn poeni nad yw pobl yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen ac y gall y rheiny sydd heb ddiagnosis wynebu oedi gan fod y broses yn cynnwys atgyfeiriad meddyg teulu at dîm seiciatrig.

"Mae modd cynnal CBT o bell, ond gall fod yn anos ymgysylltu â phobl mewn cyfnod pan mae’n bosibl bod angen mwy o gymorth a chefnogaeth arnynt nag erioed. Ac oherwydd y tarfu i'r gwasanaethau meddyg teulu a seiciatrig, does dim dwywaith y bydd effaith ehangach," dywedodd.

"Ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod pa effaith y mae'r pandemig yn ei chael ar bobl ag OCD, nac ychwaith os ydynt yn cael y driniaeth neu'r gefnogaeth angenrheidiol.

"Gyda lwc, bydd yr ymchwil yn ein helpu i ddeall yn well sut mae pobl yn ymdopi - a'n helpu i gynnig cefnogaeth gwell ac unigryw y mae modd ei rhoi o bell."

Mae Dr Hassoulas hefyd yn gobeithio drwy siarad am ei OCD bydd y cyhoedd yn cael dealltwriaeth well o'r cyflwr.

“Mae pobl yn gwneud hwyl a gallent beidio â chymryd y mater o ddifrif, ond mae Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio OCD fel un o'r cyflyrau seiciatrig mwyaf gwanychol o ran yr effaith mae'n ei gael ar fywydau pobl, eu sefyllfa ariannol a'u perthnasau," meddai.

"Gall yr awydd i berfformio trefnau penodol i deimlo'n well lorio rhywun yn llwyr - gall fod yn gyflwr annifyr iawn."

Gofynnir ofyn i gyfranogwyr yr ymchwil lenwi arolwg ar-lein am sut mae'r pandemig wedi effeithio ar eu bywydau bob dydd - y camau maent yn eu cymryd a'r lefel o orbryder y maent yn ei theimlo, ac os bu effaith ar eu triniaeth neu gefnogaeth.

https://www.youtube.com/watch?v=KfQz9Y7QB8I

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.