Yn y 10 uchaf o ran adrannau Cerddoriaeth y DU
23 Mehefin 2020
Mae'r Ysgol Cerddoriaeth ymhlith 10 adran Cerddoriaeth orau'r DU, yn ôl y Complete University Guide.
Daw'r canlyniad hwn ar ôl cynnydd parhaus yn y sgôr mewn blynyddoedd diweddar, diolch i waith rhagorol ein staff a'n myfyrwyr.
Ymhlith ein llwyddiannau eraill, roeddem yn falch iawn o glywed ein bod wedi cyrraedd y 6ed safle ymhlith adrannau Cerddoriaeth y DU oherwydd sgôr bodlonrwydd ein myfyrwyr. Yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2019, roedd sgôr boddhad cyffredinol ein myfyrwyr yn 96%.
Mae’r Complete University Guide yn rhestru dros 130 o brifysgolion y DU ar sail safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd gwaith ymchwil a rhagolygon i raddedigion ac mae nifer fawr o ymgeiswyr i brifysgolion yn ei ddefnyddio i helpu i benderfynu.
Dywedodd yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: "Rydym wastad yn falch o gael cydnabyddiaeth am ein hymrwymiad i ragoriaeth a rhoi'r profiad gorau posibl i’n myfyrwyr.
"Rydym yn gobeithio parhau i gynnal ein lefel ardderchog o foddhad myfyrwyr a thrwy lwc byddwn yn parhau i weld cynnydd pellach yn y sgôr y flwyddyn nesaf."