Gwobr nodedig cymdeithas frenhinol cemeg i wyddonwr yng ngaerdydd
26 Mehefin 2020
Mae’r Athro Richard Catlow (Prifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain) wedi ennill Gwobr Darlithyddiaeth Faraday Cymdeithas Frenhinol Cemeg.
Mae’r Athro Catlow, sy’n treulio peth amser yn y ddau sefydliad fel ei gilydd, wedi ennill y wobr am lunio a defnyddio ffyrdd cyfrifiadurol o ddarogan a dadansoddi nodweddion deunyddiau solet mewn arbrofion.
Ar ôl derbyn y wobr, meddai’r Athro Catlow: “Wrth gwrs, mae’n bleser ac yn anrhydedd derbyn y wobr hon, yn arbennig o ystyried pwy sydd wedi’i hennill cynt. Nid dim ond fi sydd wedi’i anrhydeddu chwaith ond llawer o wyddonwyr rwyf i wedi cydweithio â nhw yn y maes hwn, gan gynnwys llawer o israddedigion ac ôl-raddedigion ymroddedig roedd yn fraint goruchwylio eu gwaith.”
“Mae’n arbennig o dda derbyn gwobr sydd wedi’i henwi ar ôl Michael Faraday. Bues i yn y Sefydliad Brenhinol am flynyddoedd lawer ac all neb sydd wedi gweithio yn y sefydliad ardderchog hwnnw fethu â chael ei ysbrydoli gan einioes a champau’r dyn eithriadol hwnnw.”
Mae’r Athro Catlow, a anwyd mewn tref fechan yng ngogledd-ddwyrain Swydd Gaerhirfryn, yn rolau Pennaeth Cemeg a Deon y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol yn Llundain. Ers 2015, mae’n athro ym Mhrifysgol Caerdydd, hefyd. Yn ogystal â’r wobr, cafodd £5,000 a medal.
Mae’i ymchwil wedi manteisio ar y datblygiadau diweddaraf ym maes technoleg gyfrifiadurol i’w defnyddio mewn arbrofion (yn arbennig dulliau gwasgaru pelydrau-x a niwtronau) i fodelu a darogan lefel atomig a moleciwlaidd nodweddion deunyddiau cymhleth.
Yn ogystal â chryfhau gwybodaeth sylfaenol am agwedd sy’n datblygu’n gyflym ym maes cemeg, mae’i waith yn berthnasol i rannau cymdeithasol ac economaidd o bwys megis deunyddiau ar gyfer ynni adnewyddadwy a thechnolegau catalytig na fyddan nhw’n niweidio’r amgylchedd.
Meddai’r Dr Helen Pain, prif weithredwr dros dro Cymdeithas Frenhinol Cemeg:
“Rydyn ni’n byw mewn oes ac ynddi heriau mawr ledled y byd a chan fod mwy o gydnabyddiaeth nag erioed ynghylch gwerth gwyddoniaeth, mae’n bwysig cydnabod y rhai y tu ôl i’r llenni sy’n cyfrannu’n fawr at wella’r byd rydyn ni’n byw ynddo. Mae’n fraint ac yn anrhydedd gwneud hynny trwy’r gwobrau hyn sy’n cydnabod llwyddiant gwyddonol eithriadol.”
“Mae cymuned gwyddorau cemeg y byd yn un sy’n ymwneud â sawl math o arbenigedd megis iechyd, y newid hinsoddol, datblygu cynhyrchion, cludiant cynaladwy a phopeth arall sy’n cysylltu’r rheiny. Wrth gydnabod gwaith yr Athro Catlow, rydyn ni’n cydnabod cyfraniad pwysig y rhwydwaith rhagorol hwn o wyddonwyr at wella ein bywydau beunyddiol, hefyd.”
Rhoddir Gwobrau Cymdeithas Frenhinol Cemeg i gydnabod gwreiddioldeb ac effaith ymchwil neu am gyfraniad pob enillydd at ddiwydiant y gwyddorau cemegol neu addysg. Mae'r gwobrau’n cydnabod pwysigrwydd cydweithio ar draws y gwyddorau cemegol, a galluoedd unigolion i ddatblygu prosiectau cydweithredol llwyddiannus, hefyd.