Alpacr yn sicrhau £160k o arian sbarduno
22 Mehefin 2020
Alpacr - rhwydwaith cymdeithasol arloesol ar gyfer pobl sy'n hoff o deithio ac antur - wedi sicrhau buddsoddiad o £160k ($ 200k).
Sefydlwyd y busnes newydd gan Dan Swygart ar ôl iddo raddio mewn Economeg o Brifysgol Caerdydd yn 2017.
Hyd yma mae'r cwmni wedi codi dros £320k ($400k) ac wedi sefydlu tîm o ddatblygwyr a chynghorwyr meddalwedd o'r radd flaenaf.
“Disgwylir i Alpacr dyfu ar raddfa esbonyddol yn 2020,” meddai Dan, a gododd y rownd ddiweddaraf o arian sbarduno trwy fynd i strydoedd Silicon Valley gydag arwydd i apelio’n uniongyrchol i fuddsoddwyr.
“Roeddwn i yng nghanol Silicon Valley, yn dal bwrdd negeseuon - tua deg munud o Google, Facebook, Pencadlys Apple, a llawer mwy.
“Dechreuodd yr arwydd ddenu sylw, a chyn bo hir roeddwn yn cael coffi gyda Steve Jobs, un o’r dynion a sefydlodd Apple, ac yn cyflwyno fy syniadau i rai o’r grwpiau Buddsoddwyr Angel mwyaf yn y byd.”
Llwyddodd Alpacr i sicrhau'r rownd fuddsoddi er gwaethaf y pandemig COVID-19.
“Gyda’r cynnydd yn y genhedlaeth nesaf o gyfryngau cymdeithasol, fel Twitch, a TikTok, mae rhwydweithiau cymdeithasol y dyfodol yn canolbwyntio ar ddiddordebau arbenigol. Nod Alpacr yw dominyddu'r farchnad cyfryngau cymdeithasol byd-eang ar gyfer teithio ac antur. ”
Nod Alpacr yw lansio diweddariadau meddalwedd mawr a'u hymgyrch farchnata fyd-eang fwyaf, ac yn sefydlu swyddfa ddibynnol yn Silicon Valley.
Meddai Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Mentergarwch ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein bodd â llwyddiant Dan. Mae stori Alpacr yn antur anhygoel ynddo’i hun - fe wnaeth Menter Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd helpu Dan i wireddu ei freuddwyd gyda £200, a nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach, mae’n codi $200k mewn un rownd o arian sbarduno.”
Mae Menter a Chychwyn Busnes yn helpu myfyrwyr Caerdydd i feddwl yn greadigol, gweld cyfleoedd a gwireddu syniadau trwy weithdai, cystadlaethau, digwyddiadau, mentora a rhwydweithio.