Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect i fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg pobl ifanc yn ystod pandemig y coronafeirws

23 Mehefin 2020

Screenshot of a zoom gathering

Mae myfyriwr Prifysgol Caerdydd wedi sefydlu prosiect i fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg pobl ifanc yn ystod pandemig y coronafeirws.

Dywedodd Naomi Lea, 21, sy'n dod o Sir Ddinbych, nad oedd y broblem yn cael ei chysylltu â phobl ifanc yn aml - ond roedd llawer o'r farn bod cyfyngiadau'r cyfnod clo wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl.

Sefydlodd Project Hope, a gyda chymorth a chefnogaeth pobl ifanc a Youth Cymru, maent yn trefnu digwyddiadau ar-lein i bobl rhwng 13-25 oed dair gwaith yr wythnos.

"Yn ystod yr argyfwng hwn mae unigrwydd yn broblem fawr i lawer o bobl ifanc - nid ydynt wedi gallu cymdeithasu â ffrindiau wyneb yn wyneb na gwneud y pethau y maent yn hoffi gwneud. Dwi'n credu bod llawer wedi gweld eisiau cysylltu â phobl eraill o'r un oedran, ac maent yn ei chael hi'n anodd", dywedodd y myfyriwr seicoleg blwyddyn-olaf.

"Mewn ymateb i hyn, ro'n i'n awyddus i sefydlu prosiect i fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn a thu hwnt.

"Dechreuodd gyda syniad bychan a thrydariad yn gofyn i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ieuenctid gymryd rhan, ac mae wedi troi yn rhywbeth sy'n creu newid er gwell drwy hyrwyddo cysylltiadau, hyd yn oed yn ystod yr ychydig fisoedd y mae'r prosiect wedi bod ar waith. Dwi'n wirioneddol falch o'r gymuned rydym wedi ei chreu."

Mae'r digwyddiadau Zoom yn cael eu cynnal ar nos Lun, prynhawn dydd Mercher a nos Sadwrn. Hyd yma, mae'r sesiynau wedi cynnwys cwisiau, nosweithiau gemau, egwyliau paned rhithiwr, nosweithiau meic agored a sesiynau lles.

"Mae rhywbeth i bawb," dywedodd Naomi.

"Mae o leiaf dau o bobl ifanc yn cynnal bob sesiwn gyda chefnogaeth gweithwyr proffesiynol. Mae pobl wedi ymuno â ni o bob rhan o Gymru a'r DU - a hyd yn oed yr UDA. Mae'r prosiect yn tyfu bob wythnos gyda phobl ifanc yn ymuno â ni i gysylltu â'i gilydd a lleihau teimladau unigrwydd."

Dywedodd Joshua, 23: "Mae'r prosiect wedi cael effaith fawr arnaf fi - cyn y prosiect, doeddwn i ddim yn mynd i unrhyw le yn ystod y cyfnod clo, ond dwi bellach yn mynd â'r ci am dro bron bob dydd."

Dywedodd un arall sy’n cymryd rhan sy'n 14 oed: "Roedd yn grêt - dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd."

Dywedodd Kelly, aelod o'r tîm: "Mae wedi helpu i gynnal fy ysbryd yn ystod y cyfnod ansicr hwn, ac hefyd yn rhoi lle diogel a chyfforddus i mi i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.

"Dwi'n cymryd rhan yn llawer o'r sesiynau Zoom - ac fel arfer dyna yw uchafbwynt fy niwrnod. Mae'r tîm y tu ôl i Project Hope yn wych, ac mae cymryd rhan yn y prosiect hwn yn brofiad fydd yn aros gyda mi am gyfnod hir iawn."

Mae gan y prosiect gyfrifon ar Twitter ac Instagram hefyd gyda themâu dyddiol a chynnwys y gall bobl ifanc gymryd rhan ynddynt:

  • Her Dydd Llun - heriau hwylus i gymryd rhan ynddynt drwy'r dydd
  • Dydd Mawrth Tîm - cyflwyno aelodau a rhannu ffeithiau llawn hwyl am y tîm
  • Dydd Mercher Diddorol - rhannu ffeithiau llawn hwyl gydol y dydd
  • Dydd Iau Diolchgar - diolch i'r rheiny sy'n gwneud gwahaniaeth ac annog pobl i feddwl am yr hyn y maen nhw'n ddiolchgar amdano
  • Dydd Gwener Celf - rhannu gwaith celf a grëwyd gan bobl ifanc
  • Dydd Sadwrn Cefnogol - rhannu dyfyniadau ysbrydoledig a sgwrsio am bopeth yn ymwneud â lles
  • Dydd Sul Cymdeithasol - rhannu her ar y cyfryngau cymdeithasol

Rhan olaf y prosiect yw creu Zine o waith creadigol, megis celf, straeon byr a barddoniaeth, a grëwyd gan bobl ifanc yn ystod y pandemig.

Mae'r prosiect yn dilyn canllawiau diogelu gan Youth Cymru, elusen sy'n cefnogi pobl ifanc a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda nhw ledled Cymru.

Mae dau o weithwyr proffesiynol ieuenctid yn ymuno â bob galwad fideo er mwyn bod yn gyfrifol am ddiogelu. Mae sicrhau bod y cyfarfodydd ar agor i bobl sydd wedi cofrestru yn unig ymhlith y mesurau diogelu eraill.