Prosiect ymchwil newydd yn ceisio helpu i lywio cefnogaeth iechyd meddwl ôl-COVID yng Nghymru
11 Mehefin 2020
Mae ymchwilwyr sy'n cynnal astudiaeth bwysig newydd sy'n nodi sut mae pobl Cymru yn ymdopi â'r Coronafeirws, yn apelio am wirfoddolwyr i rannu eu profiadau.
Mae'r astudiaeth a gynhelir gan brifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn edrych ar effaith y Coronafeirws ar iechyd meddwl a lles emosiynol poblogaeth Cymru.
Mae'r tîm yn awyddus i bobl gofrestru a bod yn rhan o'r prosiect fydd yn helpu'r GIG yng Nghymru ddeall y materion sy'n effeithio ar boblogaeth Cymru yn ogystal â llywio gwasanaethau cefnogi ar gyfer y dyfodol.
Bydd saith bwrdd iechyd Cymru yn cydweithio ar brosiect unigryw Lles-Cymru a lansiwyd yr wythnos hon.
Dywedodd yr Athro Robert Snowden, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: Mae'r Coronafeirws wedi newid ein bywydau'n ddramatig. I lawer o bobl, bydd wedi cael effaith niweidiol ar eu hiechyd meddwl a'u lles - ond i bobl eraill gall fod wedi eu helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig.
“Bydd ein harolwg yn dangos sut mae pobl wedi’u heffeithio a sut gallwn ymateb fel gwlad i'r realiti newydd hwn."
Bydd yr arolwg gwreiddiol ar agor am dair wythnos a chaiff y data a gesglir ei ddadansoddi wedi hynny. Caiff y canlyniadau eu cyflwyno i'r GIG ac asiantaethau partner er mwyn iddynt allu dysgu beth yw'r ffordd orau o gefnogi'r boblogaeth leol drwy'r pandemig ac ar ôl hynny.
Caiff y broses hon ei hailadrodd wedi hynny gydag arolygon eraill dros y misoedd sydd i ddod, wrth i gymunedau Cymru wynebu heriau'r Coronafeirws a'i oblygiadau i’r economi a chyflogaeth.
Dywedodd yr Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe, sy'n arwain yr astudiaeth: “Mae hwn yn faes ymchwil pwysig fydd yn helpu'r GIG i gadw llygad ar anghenion lles y boblogaeth dros gyfnodau gwahanol y pandemig.
“Efallai bydd anghenion gwahanol rannau o Gymru yn amrywio ar adegau gwahanol y pandemig. Felly, mae'n bwysig iawn gallu teilwra'r ddarpariaeth hon er mwyn helpu pobl ble a phryd mae ei hangen arnynt."
Er mwyn cymryd rhan ewch i wefan Lles-Cymru i gofrestru neu er mwyn dod o hyd i ragor o wybodaeth. Mae'r holl atebion i'r arolwg yn ddienw.