Cyfathrebu effeithiol rhwng gwleidyddion ac etholwyr yn hanfodol er mwyn ymgysylltu’n barhaus mewn gwleidyddiaeth, meddai arbenigwyr
11 Mehefin 2020
Yn ôl arbenigwyr, ni fu'r ffordd y mae gwleidyddion yn cyfathrebu â'i gilydd erioed mor bwysig nag y mae ar hyn o bryd yn ystod pandemig Covid-19.
Arweiniodd Dr Nikki Soo o Brifysgol Caerdydd astudiaeth gyda Dr James Weinberg a Dr Kate Dommett ym Mhrifysgol Sheffield, a ymchwiliodd i sut roedd pobl yn ymateb i wahanol ddulliau cyfathrebu posibl gan Aelod Seneddol. Fel arfer mae gwleidyddion yn cael miloedd o ymholiadau bob blwyddyn gan etholwyr yn codi pryderon neu'n gofyn am gamau gweithredu ar faterion penodol.
Dangosodd ganlyniadau'r astudiaeth y gallai ymatebion personol i ymholiadau drwy lythyrau, ebyst a negeseuon cyfryngau cymdeithasol wella boddhad dinasyddion â'u cynrychiolydd a'u gwneud yn llawer mwy tebygol o ymgysylltu â gwleidydd eto yn y dyfodol. Gallai ymatebion cyflymach ond llai personol wella boddhad ychydig yn unig. Nid oedd fawr ddim amrywiaeth yn y canlyniadau a oedd yn dibynnu ar y dull cyfathrebu a ddefnyddiwyd.
Dywedodd Dr Nikki Soo o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: “Mae ein hymchwil yn dangos pwysigrwydd bod gwleidyddion yn cyfathrebu'n effeithiol â'r cyhoedd. Mae pandemig Covid-19 wedi gwneud y rhyngweithiadau hyn hyd yn oed yn fwy hanfodol. Wrth i bobl yn y DU edrych tuag at y rhai hynny mewn pŵer am sicrwydd yn ystod yr argyfwng hwn, ymatebion sydd wedi'u teilwra sy'n mynd i'r afael ag ymatebion penodol dinasyddion sy’n gallu cael yr effaith fwyaf.
"Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn hawdd. Fel arfer mae ASau yn delio â miloedd o ymholiadau a gallai hyn gynyddu wrth i effaith ehangach yr argyfwng ddod yn gliriach. Byddai creu côd arferion gorau ar gyfer y ffordd y mae ASau yn cyfathrebu yn arbennig o ddefnyddiol yn ystod y cyfnod heriol hwn. Byddai angen i’r côd sefydlu meincnodau clir a disgwyliadau realistig o ran y dulliau cysylltu gwleidyddol y dylid eu defnyddio, a dylai gael ei arwain gan bleidiau gwleidyddol neu gyrff seneddol megis yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA)."
Roedd yr arolwg yn cynnwys 1,500 o gyfranogwyr yn ymateb i gwestiynau yn seiliedig ar senario. Gwnaeth ymatebwyr raddio amrywiaeth o lythyrau damcaniaethol, ebyst a negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar bedwar mater y gellid galw ar wleidyddion i ddelio â nhw: llygredd plastig, digartrefedd, ffioedd trên ac amserau aros y GIG. Gofynnwyd iddynt hefyd nodi pa mor fodlon oeddent gyda'r ymateb a'r tebygolrwydd y byddent yn ceisio cysylltu â chynrychiolydd yn y dyfodol.
Ychwanegodd Dr Soo: “Os bydd ASau am barhau i wasanaethu eu hetholwyr, bydd angen iddynt ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o reoli llif yr ymholiadau y maent yn debygol o'i gael. Er enghraifft, gallent harneisio'r defnydd o gynadledda rhithwir i gynnal cymorthfeydd ac i fynd i'r afael â phryderon mawr y gallai bod etholwyr yn eu hwynebu. Os nad ydynt yn gwneud hynny, gall fod yn rhwystredig i bleidleiswyr yn ystod cyfnod hynod bryderus yn eu bywydau."