Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant i’r proffesiynau iechyd yn y tablau cynghrair

10 Mehefin 2020

Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd wedi cadarnhau ei lle fel un o'r sefydliadau blaenllaw ar gyfer ei phynciau iechyd yng Nghymru ac yn y DU.

Mae’r Complete University Guide yn rhestru dros 130 o brifysgolion y DU ar sail safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd gwaith ymchwil a rhagolygon i raddedigion ac mae nifer fawr o ymgeiswyr i brifysgolion yn ei ddefnyddio i helpu i lywio eu penderfyniadau.

Mae rhai meysydd wedi gweld gwelliannau rhyfeddol o fewn y Complete University Guide 2021 o'u cymharu â safleoedd 2020. Mae'r Ysgol wedi codi 9 safle i'r trydydd yn y DU ar gyfer rhaglenni Nyrsio, mae Therapi Galwedigaethol wedi sicrhau ei le yn gyntaf yn y DU, yn codi o'r ail safle yn 2020, ac mae rhaglenni Radiograffeg a Bydwreigiaeth hefyd wedi'u gosod yn uchel yn eu categorïau Technoleg Feddygol a Nyrsio.

Dywedodd Susan Ward, y Pennaeth Nyrsio, "Rwy'n falch iawn gyda'n perfformiad rhagorol yn y Complete University Guide 2021. Mae'n ffordd wych i gydnabod y gwaith cadarnhaol a'r ymdrechion y mae ein holl staff a myfyrwyr nyrsio wedi'u dangos dros y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol. Mae bod yn y trydydd safle yn y DU yn fy ngwneud i'n falch iawn ac allaf i ddim aros i weld beth fydd yn digwydd yn y flwyddyn nesaf i'n myfyrwyr sy'n llawn ymrwymiad a chymhelliad i sicrhau gofal rhagorol i gleifion bob dydd."

Dywedodd Grace Thomas, y Pennaeth Bydwreigiaeth "Rwyf i wrth fy modd yn gweld ein rhaglen Baglor mewn Bydwreigiaeth (Anrh.) yn codi ei safle i'r brig yn y DU eleni*. Mae'r canlyniadau'n tystio i ymrwymiad ac arbenigedd ein tîm Bydwreigiaeth; i gefnogaeth y tîm ehangach yn HCARE; ac i ymrwymiad ein myfyrwyr rhagorol a'r staff sy'n eu mentora wrth ddysgu ar leoliad clinigol. Ein nod yw addysgu Bydwragedd medrus, gwybodus, trugarog a pharchus sy'n cynnig gofal o ansawdd uchel, diogel i fenywod, babano d newydd a theuluoedd. Mae'n wych gweld ein gwaith cydweithredol yn cael ei wobrwyo. Rwyf i'n fwy na balch."

Mae hyn yn gosod pynciau iechyd y Brifysgol ymhlith y gorau yn y DU. Ymhlith y rhaglenni sydd â sgôr uchel mae:

  • Nyrsio yn gyntaf yng Nghymru a thrydydd yn y DU.
  • Bydwreigiaeth yn 1af yn y DU (*fel sefydliad sy'n cynnig Bydwreigiaeth dan gategori Nyrsio).
  • Therapi Galwedigaethol yn gyntaf yn y DU.
  • Ffisiotherapi yn gyntaf yng Nghymru a thrydydd yn y DU.
  • Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu yn gyntaf yn y DU (*fel sefydliad sy'n cynnig Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu dan gategori Technoleg Feddygol).
  • Radiotherapi ac Oncoleg yn gyntaf yn y DU (*fel sefydliad sy’n cynnig Radiotherapi ac Oncoleg dan gategori Technoleg Feddygol).

Dywedodd yr Athro Jean White, y Prif Swyddog Nyrsio "Llongyfarchiadau mawr i staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar gyflawni cynnydd yn safle eu cyrsiau Nyrsio a Bydwreigiaeth drwy'r DU. Mae hyn yn tystio i waith caled ac ymrwymiad y staff a'r amgylchedd dysgu cadarnhaol maen nhw wedi'i gyflawni ochr yn ochr â sefydliadau lleol GIG Cymru."

Ychwanegodd Ruth Crowder, Prif Gynghorydd Proffesiynau Iechyd Perthynol, ‘Mae’r canlyniad ardderchog hwn yn deillio o ymrwymiad, gweledigaeth, cymhelliant a gwaith caled staff a myfyrwyr, y bartneriaeth â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn cefnogi dysgu clinigol, ac wrth gwrs, ffrindiau a theuluoedd.’

Rhyddhawyd y Complete University Guide 2021 ym mis Mehefin 2020 ac mae i'w weld yma.

Rhannu’r stori hon