Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr genedlaethol y preswylfeydd i fyfyriwr Ôl-raddedig Ymchwil o Gaerdydd

29 Mai 2020

Student wearing a Residence Life hoody
Violina Sarma yma mlwyddyn olaf ei gradd PhD yn adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd

Mae myfyrwraig ddoethurol o Brifysgol Caerdydd wedi’i chydnabod gan Swyddogion Busnes Coleg a Phrifysgol (CUBO) am gynnig presenoldeb unigryw, yn bersonol ac ymhlith cyfoedion, o fewn neuaddau preswyl y brifysgol.

Roedd Violina Sarma, sydd ym mlwyddyn olaf ei gradd PhD yn adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd, yn un o saith myfyriwr o wahanol rannau o’r DU i dderbyn Gwobr Cynorthwyydd Preswyl (RA) gan CUBO.

Roedd disgwyl i’r gwobrau gael eu cyflwyno ym mis Mai yng Nghynhadledd Bywyd Preswyl blynyddol CUBO, ond mae’r digwyddiad wedi’i ohirio yn sgil pandemig COVID-19. Yn lle hynny, derbyniodd yr enillwyr eu tlysau gartref.

Cafodd Violina ei henwebu gan Elizabeth Russell, Rheolwr Bywyd Preswyl ym Mhrifysgol Caerdydd, ar ôl ennill Gwobr Cynorthwyydd Bywyd Preswyl (RLA) y Flwyddyn yn 2019 a 2020 ar gyfer ei rôl yn gwella profiad myfyrwyr, tra’n helpu i adeiladu cymuned o fewn preswylfeydd lle gall fyfyrwyr deimlo fel petaent yn perthyn ac wedi’u cynnwys.

Dywedodd Elizabeth: “Mae’r Tîm Bywyd Preswyl yn hynod falch o Violina. Fe’i henwebais ar gyfer Gwobrau RA CUBO 2020 gan ei bod hi’n ymroddedig, yn weithgar, yn ddyfeisgar, ac yn gynrychiolydd brwd o Fywyd Preswyl ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gonestrwydd a’i charedigrwydd yn nodweddion cydnabyddedig o’n Tîm...”

“Mae Violina yn deall yn fwy nag unrhyw un o’n Cynorthwywyr Bywyd Preswyl beth gall y tîm Bywyd Preswyl ei wneud i wella bywydau bob dydd myfyrwyr sy’n byw mewn neuaddau preswyl. Mae hi’n gweld y darlun cyfan ac yn ei hyrwyddo. Mae hi’n haeddu cydnabyddiaeth o’r herwydd.”

Elizabeth Russell Rheolwr Bywyd Preswyl

Yn dilyn y broses enwebu, cafodd yr enillwyr eu dewis gan banel beirniadu rhyngwladol o’r sector addysg uwch, yn cynnwys:

  • Grant Walters, Cyfarwyddwr Rhaglenni Addysgol ar gyfer Cymdeithas Swyddogion Tai Coleg a Phrifysgol (Acuho-i).
  • Colin Marshall, Cyfarwyddwr Gwasanaethau a Chefnogaeth i Fywyd Campws y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Ffederasiwn Awstralia, Cyfarwyddwr Arferion a Gwelliannau Busnes ar gyfer Acuho-i, a Chyn-lywydd Cymdeithas Llety Myfyrwyr Asia a’r Môr Tawel.
  • Jan Capper, Prif Swyddog Gweithredol, Swyddogion Busnes Coleg a Phrifysgol (CUBO)

Yn ôl Jan Capper, Prif Swyddog Gweithredol CUBO: “Mae rhaglen bywyd preswyl gref yn gwella profiad ar y campws, yn cyfrannu at les myfyrwyr, at eu cadw yn y brifysgol a’u canlyniadau academaidd.

“Mae argyfwng COVID-19 yn pwysleisio gwaith hanfodol y bobl ifanc eithriadol hyn ac rydym yn defnyddio Gwobr RA 2020 i gydnabod eu harferion gorau.”

Ers dechrau’r pandemig, mae gweithgareddau a chefnogaeth bywyd preswyl wedi symud ar-lein, gyda gweithwyr proffesiynol bywyd preswyl a chynorthwywyr bywyd preswyl sy’n fyfyrwyr, yn canfod ffyrdd creadigol o gefnogi myfyrwyr a hybu morâl yn ystod cyfnod o ansicrwydd a straen.

The Residence Life Team
Tîm Bywyd Preswyl Prifysgol Caerdydd

Yng Nghaerdydd, mae Violina a’i thîm wedi parhau i helpu i adeiladu’r gymuned o fyfyrwyr trwy drefnu gemau a chwisiau, cynnal lles meddyliol a chorfforol trwy ymarfer corff a sesiynau coginio rhithwir, rhoi cyngor ymarferol ar gadw’n ddiogel a chyfeirio at wasanaethau fel cronfeydd caledi, lles a chwnsela, gyrfaoedd a chyflogadwyedd.

Wrth fyfyrio ar ei gwobrau a’i gwaith parhaus fel Cynorthwyydd Bywyd Preswyl, dywedodd Violina: “Rydw i’n trio fy ngorau bob dydd i wneud yn siŵr fod myfyrwyr yn cael y profiad gorau posibl. Mae cael cydnabyddiaeth ar raddfa fawr yn anhygoel ac mor annisgwyl...”

“Rydw i’n ddiolchgar fod gen i dîm Bywyd Preswyl mor anhygoel ac rydw i’n ystyried hwn yn llwyddiant tîm yn sgil yr holl waith rhagorol rydym ni gyd yn ei wneud i gefnogi preswylwyr Prifysgol Caerdydd.”

Violina Sarma Myfyriwr ymchwil

Mae Gwobrau RA CUBO, a sefydlwyd yn 2018, yn nodi cyflawniad eithriadol o ran bywyd preswyl; rhaglen gynhwysfawr sy’n cefnogi’r profiad o fyw ar y campws ac oddi arno mewn llety myfyrwyr pwrpasol.

Rhagor o wybodaeth am y Tîm Bywyd Preswyl ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Os ydych yn byw ym mhreswylfeydd y Brifysgol, rydym yma i'ch cefnogi chi.