Astudiaeth yn datgelu bod pobl ifanc a defnyddwyr platfformau unigryw’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy tebygol o rannu gwybodaeth ffug am Covid-19
3 Mehefin 2020
Dengys ymchwil fod pobl ifanc a phobl sy'n defnyddio sianeli llai’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy tebygol o rannu gwybodaeth anghywir am Covid-19.
Gwnaeth academyddion o Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch Prifysgol Caerdydd archwilio’r graddau y daeth cyhoedd y DU i gysylltiad â gwybodaeth ffug yn ystod wythnosau cyntaf y cyfyngiadau symud.
Dywedodd hanner (51%) y bobl oedd yn rhan o'r arolwg eu bod wedi gweld rhyw fath o wybodaeth neu newyddion ffug am y pandemig yn y mis diwethaf ac o’r grŵp hwnnw, cytunodd 79% eu bod yn gweld straeon ffug yn fwy rheolaidd nawr nag yn y gorffennol. Hefyd, dywedodd cyfran sylweddol (12%) eu bod wedi rhannu gwybodaeth anghywir am y Coronafeirws â phobl eraill yn y mis diwethaf.
Roedd dros chwarter (28%) o’r rheiny oedd wedi rhannu gwybodaeth ffug rhwng 18-29 oed ac roedd chwarter (25%) rhwng 30-39 oed, o gymharu â 15% o’r rheiny rhwng 40-49 oed a 15% o’r rheiny rhwng 50-59 oed. Dywedodd cyfran lai fyth o’r rheiny rhwng 60-69 oed a 70 ac uwch (9% a 7% yn y drefn honno) eu bod nhw wedi rhannu straeon ffug.
Facebook sydd â’r gyfran isaf o ddefnyddwyr wnaeth gyfaddef eu bod wedi rhannu gwybodaeth anghywir (14%) naill ai’n fwriadol neu’n anfwriadol, ac yna Instagram (18%) a Twitter (20%). Roedd hyn o'i gymharu â defnyddwyr VK (44%), Weibo (37%), OK (36%), LinkedIn (34%), TikTok (33%) a Tumblr (30%).
Dywedodd yr Athro Kate Daunt wnaeth arwain yr astudiaeth: “Mae ein hymchwil, a gynhaliwyd ar ddechrau’r cyfyngiadau symud mewn ymateb i COVID-19, yn dangos y graddau pryderus o wybodaeth ffug yn ystod y pandemig hwn. Bu i dros hanner y rheiny a holwyd adnabod gwybodaeth ffug ar-lein ynghylch COVID-19, ac mae'n debygol y gallai’r 49% o unigolion eraill fod wedi dod i gysylltiad â straeon ffug heb sylweddoli. Nododd bron i bedwar allan o bob pump o bobl eu bod yn gweld mwy o wybodaeth ffug heddiw nag yn y gorffennol."
“Bu cryn dipyn o drafodaeth ynghylch cyfrifoldebau platfformau’r prif gyfryngau cymdeithasol, fel Facebook a Twitter, o ran mynd i’r afael â newyddion ffug. Ond mae ein hymchwil yn dangos y gallai’r agwedd hon fod yn or-syml.
“Rydym yn credu y gallai pobl rannu cynnwys i amlygu anghywirdebau. Ond oherwydd y ffordd y mae algorithmau platfformau’r cyfryngau cymdeithasol yn gweithio, gallai hyn fod wedi llwyddo i hybu hygrededd gwybodaeth ffug am COVID-19 a’i hamlygu mewn gwirionedd."
Disgrifir gwybodaeth ffug fel ymdrechion bwriadol i gamarwain pobl drwy roi gwybodaeth anwir, dwyllodrus neu anghywir iddynt.
Hefyd, dangosodd yr ymchwil er bod dros hanner y sampl yn cytuno bod “y llywodraeth yn gwneud yr hyn sy’n iawn”, fe wnaeth cyfran uwch o bobl oedd wedi gweld newyddion ffug ynghylch COVID-19 anghytuno â’r datganiad hwn. Roedd ymatebwyr oedd wedi gweld a rhannu newyddion ffug ynghylch y Coronafeirws hefyd yn fwy tebygol o gredu bod newyddion ffug yn cael effaith “sylweddol” ar ymddiriedaeth mewn gwyddonwyr ac arbenigwyr.
Ychwanegodd yr Athro Daunt: “Mae gwybodaeth ffug yn peryglu ymddiriedaeth ac yn achosi dryswch ar adeg y mae pobl yn chwilio am eglurder. Gan bydd y cyfyngiadau ar ein ffordd o fyw yn parhau am fisoedd i ddod yn ôl pob golwg, bydd dealltwriaeth fwy dwfn o sut mae newyddion ffug yn lledaenu ar draws sawl platfform yn hanfodol i wneud yn siŵr nad yw negeseuon cywir ynghylch iechyd cyhoeddus yn mynd ar goll.”
Roedd yr astudiaeth, sy’n rhan o brosiect ymchwil ehangach gyda 12 o wledydd, yn cynnwys arolygon gyda 722 o ddinasyddion y DU rhwng 21 Mawrth a 5 Ebrill eleni, drwy ddefnyddio platfform ar-lein. Roedd y cwestiynau'n cwmpasu ystod o bynciau gan gynnwys ymwybyddiaeth o wybodaeth ffug yn y cyfryngau ac agweddau ati; safbwyntiau domestig a byd-eang; defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol; gwybodaeth ddemograffig.