Consortiwm dan arweiniad Prifysgol Caerdydd yn ennill cais gwerth £44miliwn i ddatblygu clwstwr o ysglodion CS
26 Mehefin 2020
Mae consortiwm dan arweiniad Prifysgol Caerdydd wedi ennill cais gwerth £43.7miliwin i ddatblygu pwerdy Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS) yn Ne Cymru.
Bydd cyllid gan y Llywodraeth a ddarperir drwy Gronfa Cryfder mewn Lleoedd blaenllaw Ymchwil ac Arloesi y DU yn adeiladu clwstwr rhagoriaeth byd-eang ym maes technolegau CS – CSconnected – gan ddod â buddsoddiad economaidd a swyddi o safon uchel i'r rhanbarth.
Bydd y consortiwm buddugol yn dod â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe ac amrywiaeth o bartneriaid diwydiannol rhanbarthol allweddol ynghyd gan gynnwys IQE, SPTS, Newport Wafer Fab, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Llywodraeth y DU.
Bydd y consortiwm buddugol yn dod â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, amrywiaeth o bartneriaid diwydiannol rhanbarthol allweddol gan gynnwys IQE, SPTS, Newport Wafer Fab a Microsemi, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru at ei gilydd.
Dywedodd prif awdur proses cyflwyno ceisiadau Cronfa Cryfder mewn Lleoedd (SIPF), Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – sy’n fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE: "Mae'r cyhoeddiad yn newyddion gwych i Gymru a'r DU, gan gynnig cyfle unigryw i harneisio'r galluoedd ymchwil ac arloesi ardderchog mewn ffordd y gellir eu defnyddio ar gyfer prosesau gweithgynhyrchu yn y DU sydd o'r radd flaenaf ar gyfer marchnadoedd technoleg byd-eang newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg."
Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) Prifysgol Caerdydd: “Rydym wrth ein bodd yn ennill y wobr hon. Bydd yn helpu i sefydlu CSconnected fel clwstwr gorau Ewrop sy'n troi ymchwil y brifysgol yn dwf yn nefnydd Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ar raddfa fawr a chreu dyfeisiau. Mae llawer o ddatblygiadau yn ein bywydau bob dydd yn dibynnu ar dechnoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd. Bydd y wobr hon yn atgyfnerthu'r consortiwm, yn caniatáu iddo ddatblygu technoleg sy'n galluogi tueddiadau newydd megis cerbydau hunan-yrru a dulliau cyfathrebu 5G, a hefyd yn dechrau bodloni anghenion hyfforddiant y gweithlu fydd yn ei ddatblygu."
Ar hyn o bryd mae Prifysgol Caerdydd yn adeiladu canolfan newydd i arloesi technolegau CS. Bydd y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol yn gartref i gyfleusterau o'r radd flaenaf a fydd yn galluogi academyddion ICS sy'n gweithio law yn llaw gyda'r diwydiant i ddatblygu, profi a gweithgynhyrchu dyfeisiau CS.
Nod CSconnected yw helpu i greu miloedd o swyddi drwy sefydlu cadwyn gyflenwi ffotoneg newydd ar gyfer marchnadoedd cyfathrebu a synhwyro, cadwyn gyflenwi ffotofoltäig newydd sy'n seiliedig ar led-ddargludyddion, gan alluogi pobl i ddefnyddio Cerbydau Awyr Di-griw uchder uchel, a phlatfform pecynnu ysglodion lled-ddargludyddion bach iawn ar gyfer ceisiadau sy'n dod i'r amlwg ym maes Electroneg Pŵer a dulliau cyfathrebu 5G.
Bydd y prosiect yn creu ffrwd o dalent a fydd yn cynnig swyddi medrus iawn sy'n talu'n dda, gan ddod â manteision cymdeithasol ac economaidd i Dde Cymru. Bydd hefyd yn cynnwys y gwaith o ddatblygu canolfan ddylunio a gweithgynhyrchu modiwlau yn y rhanbarth yn ogystal â datblygu'r genhedlaeth nesaf o setiau offer ar gyfer creu wafferi lled-ddargludyddion gyda chapasiti, unigrywiaeth ac effeithlonrwydd cynhyrchu gwell gan hwyluso'r gwaith o ddatblygu technegau a chyfarpar prosesu wafferi gwell.
Mae'r farchnad lled-ddargludyddion fyd-eang gyfan (lled-ddargludyddion cyfansawdd a silicon) werth tua US$350bn y flwyddyn ac mae'n tyfu rhwng 10 a 15% y flwyddyn. Mae'r farchnad lled-ddargludyddion cyfansawdd fyd-eang werth tua US$30bn, ond mae dadansoddwyr marchnadoedd yn credu bod potensial enfawr ar gyfer twf mewn technolegau newydd a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg megis cerbydau heb yrwyr ac awtonomaidd ac mewn technolegau gofal iechyd.
Yn ôl dadansoddwyr, rhagwelir y bydd marchnadoedd byd-eang ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cyrraedd US$125 biliwn erbyn 2025, gyda dadansoddwyr eraill yn amcangyfrif y bydd gwerth y farchnad fyd-eang ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd yn tyfu mwy na $300 biliwn erbyn 2030; tair gwaith cyfradd twf silicon.
Gwybodaeth am CSConnected
Sefydliad nid-er-elw yw CSconnected, sef canolfan ragoriaeth fyd-eang cyntaf y byd ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Cafodd ei sefydlu yn 2020 ac mae'n gartref i eco-system unigryw o alluedd uchel o ran technoleg sy'n arwain y ffordd ym maes ymchwil gymhwysol, uwch geisiadau a gwaith arloesi ar y cyd gan roi Cymru a'r DU ar flaen y gad o ran deunyddiau a dyfeisiau newydd y farchnad a'r rhai sy'n dod i'r amlwg.
Clwstwr o sefydliadau academaidd a diwydiannol yw CSconnected sy'n ceisio dod ag aelodau at ei gilydd, gan ddarparu arweinyddiaeth meddwl ac arbenigedd i'w mabwysiadu a hyrwyddo pwysigrwydd Lled-ddargludyddion Cyfansawdd fel technoleg alluog allweddol.
Ewch i www.csconnected.com er mwyn dysgu mwy, a chysylltwch â ni ar LinkedIn a Twitter.