Iechyd meddwl meddygon
14 Ebrill 2016
Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, mae meddygon ifanc a'r rhai sydd o dan hyfforddiant yn llai tebygol o ddatgelu anawsterau iechyd meddwl personol o'u cymharu â meddygon teulu neu ymgynghorwyr.
Mae'r astudiaeth, a arweiniwyd gan yr Athro Debbie Cohen o'r Ysgol Meddygaeth, wedi'i chyhoeddi yng nghyfnodolyn yr Occupational Medicine. Yn rhan o'r astudiaeth, holwyd bron 2,000 o feddygon ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd, gan gynnwys rhai oedd â hanes o ddioddef anawsterau iechyd meddwl.
Gofynnwyd i feddygon oedd heb hanes o salwch iechyd meddwl, feddwl yn ddamcaniaethol am ba mor debygol y byddent o ddatgelu gwahanol fathau o salwch iechyd meddwl yn y gwaith. Gofynnwyd i'r rhai oedd wedi cael profiad personol o anawsterau iechyd meddwl pam y gwnaethant ddatgelu manylion amdanynt, a phryd.
Dywedodd 73% o'r ymatebwyr oedd heb ddioddef salwch iechyd meddwl, y byddent yn datgelu'r salwch yn y gwaith. Fodd bynnag, ymhlith y rhai oedd wedi dioddef salwch iechyd meddwl, 41% ohonynt oedd wedi datgelu hynny. Gwelwyd gwahaniaethau o ran datgelu hefyd mewn cysylltiad â llwybr a chyfnodau gyrfa.
Dywedodd yr Athro Cohen: “Daeth i'r amlwg yn yr astudiaeth fod gwahaniaeth rhwng sut yr oedd meddygon yn tybio y byddent yn ymddwyn pe byddent yn mynd yn sâl, o'i gymharu â'u hymddygiad mewn gwirionedd wrth ddioddef salwch iechyd meddwl. Yn arwyddocaol, roedd meddygon ifanc a'r rhai sydd o dan hyfforddiant yn llai tebygol o ddatgelu.
“Yn ôl pob golwg, roedd y meddygon oedd wedi cael profiad o salwch iechyd meddwl yn datgelu'n ddiweddarach na phryd y byddai'r rhai oedd heb gael y salwch wedi dweud y byddent yn gwneud hynny, pe byddai'r sefyllfa'n codi. Awgryma hyn bod cryn rwystrau na ddaw i'r amlwg nes bydd y meddyg yn mynd yn sâl."
Roedd osgoi cael eu labelu a methu deall pa gefnogaeth sydd ar gael ymhlith y prif rwystrau a nodwyd sy'n eu hatal rhag datgelu. Roedd y rhwystrau eraill yn cynnwys methu gweld pam y byddai datgelu yn berthnasol, mynnu eu bod yn gallu mynd i'r afael â'r broblem ar eu pen eu hunain, a phryder ynglŷn â rôl y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
“Nod y gwaith ymchwil hwn oedd dangos sut gallai ymyriadau sydd wedi'u targedu gael eu cyflwyno neu eu gwella er mwyn cefnogi meddygon yn fwy effeithiol,” meddai'r Athro Cohen.
“Mae ein canlyniadau'n awgrymu y gallai rhannu gwybodaeth am sut i gael cefnogaeth, egluro sut mae gwasanaethau cefnogi'n gweithio, yn ogystal â'u ffiniau o ran cyfrinachedd, helpu i lywio gwasanaethau yn y dyfodol. Byddai budd amlwg hefyd mewn adolygu'r gefnogaeth a gynigir yn yr ysgolion meddygol os ydym am osgoi straen a gofid o'r fath yn y dyfodol.”
Mae'r papur, Understanding doctors’ attitudes towards self-disclosure of mental health, ar gael yma.