Mae Caerdydd yn cyflawni statws 'Hyrwyddwr' ar gyfer cydraddoldeb rhywedd ym maes Ffiseg
27 Mai 2020
Dyfarnodd y Sefydliad Ffiseg (IOP) y statws Hyrwyddwr Juno i Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, am ei gwaith a'i hymrwymiad wrth fynd i'r afael â chydraddoldeb rhywedd ym maes Ffiseg.
Prosiect Juno yw cynllun gwobrwyo IOP sy'n annog, cefnogi, cydnabod a gwobrwyo gweithredoedd adrannau, ysgolion, sefydliadau a grwpiau ffiseg er mwyn mynd i'r afael â chydraddoldeb rhywedd yn y maes, gan groesawu arferion gwell a meithrin amgylchedd gweithio mwy cynhwysol.
Y nod yw helpu sefydliadau i greu a sefydlu diwylliant teg ar gyfer staff a myfyrwyr, gydag egwyddorion sy'n cwmpasu ac yn cynnwys penodiadau a dewisiadau, dyrchafiadau a chynnydd gyrfa, diwylliant adrannol, dyraniadau gwaith ac arferion gweithio hyblyg.
Mae'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn ymuno â 21 o adrannau ffiseg a sefydliadau eraill sydd wedi cael statws Hyrwyddwr Juno, ac mae'n dod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gyflawni statws Hyrwyddwr.
Mae pob un wedi gorfod ymgorffori egwyddorion Prosiect Juno yn llawn a dangos sut y byddent yn parhau i roi arferion da ar waith.
Mae tair lefel o wobrau Juno, gyda chyfranogwyr yn symud ymlaen o fod yn Gefnogwr Juno i fod yn Ymarferydd Juno ac yna'n Hyrwyddwr Juno.
Cefnogir y rhai hynny sy'n cymryd rhan yn y prosiect drwy gydol eu taith Juno gan yr IOP, gyda gweithdai am ddim ac adnoddau arferion gorau, ymweliadau â safleoedd a diweddariadau rheolaidd ar Juno.
Dywedodd Angela Townsend, Cydlynydd Amrywiaeth IOP: “Rwyf bob amser wrth fy modd yn gweld Hyrwyddwr newydd yn ymuno â'r rhestr sy'n tyfu o Hyrwyddwyr Juno. Rydym yn gwerthfawrogi faint o ymrwymiad sydd ei angen i wneud a chynnal newid a dathlu'r ffaith bod Prosiect Juno'n parhau i fynd o nerth i nerth, gan gefnogi adrannau ffiseg wrth sefydlu ac ymgorffori cydraddoldeb i'w harferion.
“Ond mae'r wobr hon yn arbennig o drawiadol, gan mai Caerdydd yw'r adran gyntaf i gael dyfarniad statws Hyrwyddwr Juno yng Nghymru. Hoffwn longyfarch y tîm yng Nghaerdydd, yn enwedig Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Peter Smowton, yr Athro Emyr Macdonald ac Wendy Sadler MBE am eu hymroddiad a'u cyflawniad. Maent wedi sefydlu'r adran yng Nghaerdydd fel sefydliad arloesol, a gobeithio bydd adrannau ffiseg rhanbarthol eraill yn ei dilyn.
Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Pennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: “Wrth gwrs, rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael statws Hyrwyddwr Juno. Mae'n gyflawniad gwych a oedd yn cynnwys tîm ymroddgar yma yng Nghaerdydd gyda chefnogaeth gan y Sefydliad Ffiseg, a oedd yn gweithio gyda ni i gyflawni'r targedau a nodwyd gennym yn yr adran. Mae'r ffaith mai ni yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru i gael statws Hyrwyddwr Juno yn ei gwneud yn fwy arbennig byth."