Sut mae plant wedi ymaddasu yn ystod cyfnod COVID-19?
27 Mai 2020
Bydd ymchwilwyr yn ystyried profiadau plant o fywyd yn ystod pandemig COVID-19.
Nod yr astudiaeth, gan Dr Justin Spinney a Dr Matluba Khan o Brifysgol Caerdydd a Muntazar Monsur o Brifysgol Dechnolegol Texas, yw gweld pa fath o weithgareddau y mae plant a phobl ifanc wedi bod yn eu gwneud yn ystod y pandemig a sut maent wedi ymaddasu i’r newidiadau enfawr yn sgîl y cyfyngiadau symud.
Mae pobl ifanc rhwng 7 a 14 oed yn cael eu gwahodd i lenwi dyddiadur gweithgareddau dros wythnos, yn ogystal â rhoi gwybodaeth am eu lleoliad a’u teuluoedd. Bydd y data’n rhan o astudiaeth ryngwladol sy’n cynnwys pedair gwlad arall - UDA, Taiwan, Singapôr a Bangladesh.
Dywedodd Dr Justin Spinney o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: “Mae bywyd plant wedi newid yn sylweddol ers dechrau cyfyngiadau symud COVID-19. I ffwrdd o’r ysgol ac ar wahân i’w ffrindiau a’u teuluoedd estynedig, efallai bydd y mathau o weithgareddau y mae plant yn gallu eu gwneud yn effeithio ar eu datblygiad cymdeithasol a’u lles. Mae anghydraddoldebau cymdeithasol, mynediad at dechnoleg a mannau tu allan i gyd yn debygol o fod wedi cael effaith.
“Bydd casglu hanesion uniongyrchol plant yn rhoi’r cipolygon mwyaf clir ar y ffactorau sydd wedi’u galluogi i ymdopi drwy’r adeg anodd hon. Rydym yn gobeithio y bydd rhieni, athrawon a phlant yn helpu i ledaenu’r gair am y dyddiadur fel bod ein hymchwil mor bellgyrhaeddol â phosibl.”
Caiff cyfranogwyr eu recriwtio drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ysgolion ac ar dafod leferydd. Mae’r dyddiadur ar gael ar-lein a gellir dosbarthu copïau caled ar gais. Ar ôl ei gwblhau, gall plant lawrlwytho copi a thystysgrif o gyfranogiad fel atgof o’r hyn yr oeddynt yn ei wneud yn ystod y cyfyngiadau symud.
Meddai Dr Matluba Khan: “Mae plant wedi wynebu heriau enfawr dros yr wythnosau diwethaf wrth iddynt ymgyfarwyddo â ffordd gwbl newydd o fywyd. Bydd y gweithgareddau y gallant gymryd rhan ynddynt a pha mor dda y gallant gadw mewn cysylltiad â phobl eraill wedi chwarae rolau mawr mewn sut maent wedi ymateb i’r heriau hyn.
“Drwy gasglu’r data hwn, rydym yn gobeithio deall pa fynediad sydd gan blant at fannau tu allan a thechnoleg, sut mae eu gweithgareddau a’u perthnasoedd cymdeithasol wedi newid yn ystod y cyfyngiadau symud, sut reolaeth sydd ganddynt dros eu gweithgareddau, a sut mae hyn yn amrywio o wlad i wlad.”
Defnyddir yr ymchwil i lywio polisïau cynllunio trefol yn y dyfodol, i wneud yn siŵr bod plant yn cael mynediad at yr adnoddau iawn i hybu eu gwydnwch cymaint â phosibl yn eu bywydau bob dydd, ac yn wyneb unrhyw gyfyngiadau cymdeithasol yn y dyfodol. Mae academyddion yn gobeithio cofnodi data o bob gwlad erbyn mis Gorffennaf.
Cymerwch rhan yn yr holiadur, neu i gael fersiwn bapur, ebostiwch spinneyj@caerdydd.ac.uk neu khanm52@caerdydd.ac.uk, gyda manylion o ble dylid ei hanfon. Gofynnir am gydsyniad y rhieni, yn ogystal â chydsyniad y plentyn.