‘Llofnodion’ yn y gwaed yn datgelu sut bydd cleifion sepsis yn ymateb i’r cyflwr
27 Mai 2020
Mae gwyddonwyr wedi adnabod “llofnodion” moleciwlaidd yn y gydran o’r gwaed sy’n ymwneud ag imiwnedd ac yn dynodi sut mae cleifion gofal dwys gyda sepsis, sioc septig a syndrom ymateb llidiol systemig (SIRS) yn debygol o ymateb i’r cyflyrau.
Mae’r gwaith, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Lloegr ac yn cynnwys prifysgolion Caerdydd a Nottingham Trent, yn golygu y byddai clinigwyr yn gallu profi cleifion ac achub y blaen ar eu rheoli a’u trin ar sail eu proffiliau imiwnedd am y tro cyntaf.
Y gobaith yw y gallai’r astudiaeth baratoi’r ffordd tuag at therapïau newydd hefyd, achos gallai’r ymchwilwyr adnabod moleciwlau allweddol yn y system imiwnedd allai fod yn dargedau newydd i gyffuriau.
Maent hefyd yn credu bod modd cymhwyso’r dull hwn at Covid-19, oherwydd ei fod yn datblygu fel clefyd tebyg i sepsis, mewn achosion mwy difrifol.
Dywedodd Dr Tamas Szakmany, uwch-ddarlithydd mewn gofal dwys ym Mhrifysgol Caerdydd: “Gall sepsis ar yr uned gofal dwys ymddangos mewn sawl ffordd, ac rydym wedi dysgu bod diffinio’r grŵp o gleifion ar sail paramedrau clinigol yn unig yn anodd.
“Bydd dealltwriaeth fanwl o’r ymateb moleciwlaidd i haint yn ein helpu i drin y cleifion hynny â therapïau newydd, gan mai nhw yw’r rhai fydd yn elwa fwyaf ar y dulliau arbrofol hyn, mwy na thebyg.
“Rydym yn credu y gellir cymhwyso ein model biowybodeg yn hawdd wrth chwilio am fiomarcwyr newydd allai ein helpu i bennu difrifoldeb a phrognosis y clefyd newydd hwn, Covid-19. Byddai dosbarthu cleifion i mewn i grwpiau risg yn gwella ein gallu i gyfeirio triniaethau newydd at y rheiny sy’n elwa fwyaf arnynt.”
Cyflwr sy’n peryglu bywyd yw sepsis - sydd angen gofal dwys ar ei gyfer - ac sy’n codi pan mae’r system imiwnedd yn gorymateb i haint ac yn dechrau difrodi meinweoedd ac organau’r corff.
Mae’n broblem fawr i ofal iechyd yn y DU ac yn cyfrif am chwarter o’r cleifion a dderbynnir i ofal dwys yn y DU.
Er hyn, mae diffyg gwybodaeth am y prosesau imiwnedd a’r moleciwlau perthnasol sy’n rhan o sepsis. Byddai hyn yn helpu clinigwyr i wahaniaethu rhwng sepsis a syndrom ymateb llidiol systemig (SIRS) - sy’n debyg iawn i’w gilydd - er mwyn gwella sut rheolir cleifion drwy driniaethau mwy addas yn ogystal â helpu i adnabod therapïau newydd posibl.
Dadansoddodd y tîm foleciwlau yng nghelloedd gwyn y gwaed, sy’n gweithio’n rhan o system imiwnedd cleifion â sepsis, sioc sepsis - y ffurf fwyaf difrifol ar sepsis - a SIRS.
Drwy ddefnyddio dysgu peiriannol a deallusrwydd artiffisial dan arweiniad Prifysgol Nottingham Trent, roeddynt wedyn yn gallu datblygu llofnodion moleciwlaidd a allai ragfynegi deilliannau cleifion ar sail eu hymateb imiwnedd, y cyflwr oedd arnynt ac a wnaeth e ddechrau yn yr ysgyfaint neu’r abdomen.
Mae gwaith yn mynd rhagddo yn PHE a Chaerdydd i ddatblygu’r llofnodion hyn ymhellach yn offer diagnostig i’w defnyddio yn y clinig.
Meddai’r Athro Graham Ball o Nottingham: “Mae’r dull hwn yn cynnig cipolygon ar sut mae cleifion yn ymateb i’r cyflyrau difrifol hyn ar sail eu hymateb imiwnedd a’r prosesau moleciwlaidd sy’n diffinio ac yn sbarduno datblygiad clefydau.
“Mae ein gwaith yn amlygu pwysigrwydd archwilio ymatebion moleciwlaidd y system imiwnedd er mwyn rhagfynegi deilliannau cleifion.
“Un agwedd bwysig arall ar yr astudiaeth yw bod y prosesau moleciwlaidd a adnabyddom ni yn debyg i’r rheiny sy’n diffinio deilliannau cleifion COVID-19. Felly, mae’n bosibl y bydd modd defnyddio ein dulliau i ragfynegi ymatebion a deilliannau’r cleifion hyn hefyd.”
Cafodd y gwaith, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Frontiers in Immunology, ei ariannu gan Innovate UK ac roedd yn cynnwys Coleg Prifysgol First City ym Malaysia a Chynghrair Gofal Critigol yng Nghymru a Lloegr.