Prosiect rhyngwladol mawr er mwyn mynd i'r afael â gwydnwch newid hinsawdd yn Horn Affrica
26 Mai 2020
Dyfarnodd Horizon 2020 yr UE dros €6.7miliwn i dîm rhyngwladol o ymchwilwyr a sefydliadau er mwyn helpu i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd a dŵr yn Sychdiroedd Horn Affrica (SHA).
Bydd y prosiect UE, o'r enw DOWN2EARTH, dan arweiniad gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd gyda chyfraniadau sylweddol gan 14 o bartneriaid eraill mewn 7 gwlad, yn defnyddio rhagolygon tymhorol modern a phrosiectau degawdol o'r newid yn yr hinsawdd a throsglwyddo hyn yn wybodaeth gryno y gall ffermwyr a bugeiliaid, cymunedau, cyrff anllywodraethol a llywodraethau ei defnyddio i leihau'r effeithiau negyddol y caiff newid yn yr hinsawdd ar fywyd gwledig.
Mae elfen bwysig ar DOWN2EARTH yn cynnwys gwella cywirdeb rhagolygon amrywioldeb hinsawdd mewn tymhorau glawog critigol ac asesu ei effaith ar gyfanswm y dŵr sy'n cael ei storio mewn priddoedd ar gyfer amaethyddiaeth ac yn bellach dan y ddaear ar gyfer cyflenwadau dŵr yfed.
Bydd gwella'r rhagolygon hyn yn ein helpu i ragweld yn well beth fydd yr effeithiau ar waith ffermio, cynhyrchu bwyd a dŵr a bydd yn cynyddu gwydnwch ar draws y rhanbarth hwn sy'n agored iawn i niwed, gan alluogi'r boblogaeth i wneud penderfyniadau gwell a mwy gwybodus.
“Er mwyn addasu i newid yn yr hinsawdd mae angen cael gwybodaeth well a mwy amserol am fynegiant yr hinsawdd ar arwyneb y tir, y lleithder sydd angen yn y pridd i dyfu cnydau ac am ddŵr daear i'w yfed," meddai Prif Ymchwilydd DOWN2EARTH, Dr Michael Singer, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd, Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Ymchwil Dŵr.
“Mae angen cyflwyno'r wybodaeth hon i bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar sawl lefel o gymdeithas, o bentrefwyr sy'n bugeilio amrywiaeth o anifeiliaid sy'n penderfynu beth a phryd y dylent blannu cnydau neu symud eu ceidwaid, hyd at weinyddiaethau'r llywodraeth Sy'n datblygu polisïau rheoli tir a dŵr newydd, ac ymatebion dyngarol cynyddol cyrff anllywodraethol i'r newyn sy'n gysylltiedig â sychder."
Agwedd allweddol ar DOWN2EARTH bydd y cymorth a roddir i randdeiliaid aml-lefel ar sut i ehangu eu gwybodaeth am yr hinsawdd a sut i ddefnyddio gwybodaeth a gesglir wrth fonitro'r hinsawdd a gan systemau rhagweld yn well.
“Byddwn yn gwneud hyn ar ffurf apiau bwrdd gwaith a ffonau symudol sy'n rhoi gwybodaeth amserol o'n gwaith o fodelu ar y storfa ddŵr a'r cynnyrch cnydau a ragwelir ar gyfer y tymhorau sydd i ddod. Bydd y wybodaeth hon, yn seiliedig ar y rhagolygon gorau sydd ar gael o'r hinsawdd, yn cael ei datblygu ar y cyd gyda'r rhanddeiliaid targed er mwyn sicrhau ei bod yn ddefnyddiol i wella'r broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel, o'r pentref hyd at weinyddiaeth y llywodraeth," meddai Dr Singer.
O dan ddylanwad y newid yn yr hinsawdd, caiff y "normal newydd" yn y SHA ei nodweddu gan sychder o fis Mawrth i fis Mai tua bob yn ail flwyddyn, ond nid yw'n glir a fyddai misoedd glawog eraill yn cefnogi cyfleoedd ar gyfer addasu i'r sefyllfa hon sy'n agored i sychder.
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar sychdiroedd Horn Affrica (SHA) yn Kenya, Somalia ac Ethiopia, un o'r rhanbarthau mwyaf ansicr o ran bwyd ar y Ddaear. Mae cymunedau gwledig SHA yn arbennig o agored i niwed o ran ansicrwydd bwyd a cholledion economaidd cysylltiedig yn ystod amodau sychder oherwydd lefelau economaidd-gymdeithasol isel a gallu cyfyngedig i ymateb i'r siociau hinsoddol hyn.
Bydd y prosiect hefyd yn asesu dimensiynau economaidd-gymdeithasol a dynameg ddynol y newid yn yr hinsawdd gan gynnwys adborth rhwng siociau hinsoddol, ymddygiad dynol a'r gwaith o weithredu polisïau.
Yn y pen draw, nod DOWN2EARTH yw cryfhau gwasanaethau hinsawdd rhanbarthol drwy feithrin gallu, gwyddoniaeth dinasyddion, dosbarthu gwybodaeth, ehangu rhwydweithiau data a gweithredu polisïau.
Cynhelir rhan o'r gwaith hwn gan bartner prosiect, BBC Media Action. Gan adeiladu ar eu partneriaethau cyfryngau sefydledig a gwaith o addasu i'r hinsawdd yn y rhanbarth, bydd yr elusen yn datblygu ac yn hyfforddi newyddiadurwyr o orsafoedd radio lleol i greu rhaglenni cywir a hygyrch sy'n mynd i'r afael â materion o ran addasu i'r newid yn yr hinsawdd.
I gloi, dywedodd Dr Singer, “Mae hyn yn rhan o'n strategaeth fwy o ran cyfathrebu er mwyn gwella'r negeseuon am y newid yn yr hinsawdd a rhannu'r opsiynau o wneud penderfyniadau â chynulleidfaoedd mwy o faint yn y rhanbarth a thu hwnt".